Newyddion S4C

Babi wedi marw ar ôl i’w thriniaeth cynnal bywyd ddod i ben

13/11/2023
Indi Gregory

Mae merch fach ddifrifol wael wedi marw ar ôl i’w thriniaeth cynnal bywyd ddod i ben.

Bu farw Indi Gregory yn wyth mis oed, mewn hosbis fore Llun.

Roedd Dean Gregory a Claire Staniforth o Ilkeston, Swydd Derby wedi gobeithio y byddai arbenigwyr yn parhau i drin eu merch wyth mis oed Indi, oedd yn dioddef o afiechyd mitocondriaidd.

Ond collodd y cwpwl, sy'n cael eu cefnogi gan yr ymgyrchwyr Christian Concern, achosion yn yr Uchel Lys a’r Llys Apêl yn Llundain.

Dywedodd llefarydd ar ran Christian Concern ddydd Sul, nad oedd Indi bellach yn derbyn triniaeth i ymestyn ei bywyd.

Roedd barnwr yr Uchel Lys, Ustus Peel, wedi penderfynu mai’r peth gorau i Indi Gregory oedd peidio â pharhau a’r driniaeth.

Methodd ei rhieni â pherswadio barnwyr a barnwyr y Llys Apêl yn Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg, Ffrainc, i wrthdroi’r penderfyniad hwnnw.

Roedden nhw hefyd wedi gobeithio trosglwyddo Indi i ysbyty yn Rhufain.

Roedd hi wedi cael ei symud o Ganolfan Feddygol y Frenhines yn Nottingham, lle’r oedd yn cael ei thrin, i hosbis, medd yr ymgyrchwyr.

Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan y grŵp, dywedodd tad Indi: “Daeth bywyd India i ben am 01.45. 

“Mae Claire a minnau'n grac, yn dorcalonnus ac wedi cywilyddo.

“Nid yn unig y cymerodd y GIG a'r llysoedd ei chyfle i fyw bywyd hirach, ond fe wnaethant hefyd gymryd ei hurddas i farw yng nghartref y teulu.

“Fe wnaethon nhw lwyddo i gymryd corff ac urddas India, ond ni allant byth gymryd ei henaid. 

“Fe wnaethon nhw geisio cael gwared ar Indi heb i neb wybod, ond fe wnaethon ni sicrhau y byddai hi'n cael ei chofio am byth. Roeddwn i'n gwybod ei bod hi'n arbennig o'r diwrnod y cafodd ei geni.

“Roedd hi ym mreichiau Claire hyd at ei hanadl olaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.