Storm Debi: Rhybudd melyn am wyntoedd 'cryf iawn' i rannau o Gymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd a fydd o bosib yn "gryf iawn" i rannau o Gymru dydd Llun wrth i Storm Debi agosáu.
Bydd y rhybudd yn dod i rym am 04:00 ac yn dod i ben am 18:00 ddydd Llun.
Mae posibilrwydd y gallai tai a busnesau brofi llifogydd, gan achosi difrod i rai adeiladau.
Gall oedi fod yn debygol ar gyfer gwasanaethau trên a bws, gyda disgwyl i deithiau gymryd mwy o amser.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Powys
- Sir Benfro
- sir Ddinbych
- Sir Gaerfyrddin
- sir y Fflint
- Wrecsam
- Ynys Môn
Inline Tweet: https://twitter.com/TraffigCymruG/status/1723643102739468650?s=20
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd fod yna "rywfaint o ansicrwydd o hyd ynghylch union lwybr a dyfnder" y storm.
"Mae siawns y bydd gwyntoedd gorllewinol cryf iawn yn datblygu ar hyd arfordiroedd Môr Iwerddon yng Nghymru a gogledd-orllewin Lloegr fore Llun," medden nhw.
"Mae yna bosibilrwydd y bydd hyrddiau 60-65 mya ar y tir a 70-80 mya o amgylch yr arfordiroedd, a thros dir uwch."