Arlywydd Ffrainc yn galw ar Israel i roi’r gorau i fomio a lladd menywod a babanod yn Gaza
Mae Arlywydd Ffrainc wedi galw ar Israel i roi’r gorau i fomio a lladd menywod a babanod yn Gaza.
Galwodd Emmanuel Macron am gadoediad yn y diriogaeth.
“Rwy’n credu nad oes unrhyw gyfiawnhad dros ymosod ar sifiliaid,” meddai.
“Mae sifiliaid yn cael eu bomio heddiw - mae yna fabanod, mae yna fenywod, mae hen bobl yn cael eu bomio a’u lladd.
“Does dim rheswm am hynny. Felly rydyn ni'n annog Israel i stopio."
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn siomedig nad oedd yr Unol Daleithiau a’r DU hefyd wedi galw am gadoediad, meddai: “Na, ond rydw i’n gobeithio eu bod nhw’n mynd i wneud.”
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn gweld y darlun cyfan, ond dwi’n meddwl mai dyna’r unig ateb, sef cadoediad,” meddai.
Mae swyddogion Gaza yn dweud bod dros 11,000 wedi marw yno ers i Hamas ymosod ar Israel ar Hydref 7.
Gwrthododd Mr Macron ddweud a oedd yn credu bod Israel wedi torri cyfraith ryngwladol.
“Rydym yn cydnabod hawl Israel i amddiffyn eu hunain,” meddai.
“A mis ar ôl yr ymosodiad terfysgol rwy’n meddwl na ddylwn ni gondemnio partner a ffrind a dweud eu bod nhw’n euog.”
‘Ddim o ddifrif’
Ymatebodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu i sylwadau Emmanuel Macron gan ddweud mai Hamas oedd ar fai am y niwed i bobol gyffredin.
“Hamas ac nid Israel sy’n gyfrifol am unrhyw niwed i sifiliaid,” meddai.
Ddydd Mercher fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Tramor James Cleverly fod Llywodraeth y DU yn cefnogi “saib dyngarol” yn Llain Gaza ond nid cadoediad.
Dywedodd y byddai cadoediad yn amharu ar allu Israel i’w amddiffyn ei hun.
“Does dim byd o gwbl sy’n gwneud i ni gredu bod arweinyddiaeth Hamas o ddifrif ynglŷn â chadoediad,” meddai.
Llun: PA/ Hannah McKay.