Newyddion S4C

Diswyddo plismon am gamymddwyn difrifol

09/11/2023
HEDDLU GWENT

Mae heddwas gyda Heddlu Gwent wedi ei ddiswyddo wedi i banel annibynnol benderfynu ei fod yn euog o gamymddwyn difrifol.

Roedd Calum Powell yn wynebu honiadau iddo daro carcharor mewn digwyddiad ym mis Gorffennaf 2021

Penderfynodd y panel ei fod wedi mynd yn groes i dri canllaw o safonau ymddygiad proffesiynol - sef dangos awdurdod, parch, a chwrteisi; defnyddio grym, a chamymddwyn.

Dywedodd Dirprwy Prif Gwnstabl Gwent, Rachel Williams; "Disgynodd ymddygiad Calum Powell ymhell islaw'r safonau uchel rydym yn ddisgwyl o'n holl swyddogion a staff.

“Roedd y lefel o rym wnaeth e ddefnyddio yn ormodol ac yn gwbl annerbyniol, Does dim lle i'r math yma o ymddygiad o fewn Heddlu Gwent.

"Mae ymddygiad o'r math yma yn tanseilio gwaith ymroddedig y mwyafrif llethol o heddweision a staff sy'n gweithio'n ddiflino i warchod y cyhoedd gydag urddas a dewrder bob dydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.