Cwynion ym Môn am dractorau'n goryrru drwy bentrefi cefn gwlad
09/11/2023
Mae trigolion nifer o bentrefi ym Môn wedi lleisio eu pryderon wrth yr heddlu am dractorau'n goryrru tra bod eu gyrwyr ar eu ffonau symudol.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y pryderon wedi eu lleisio mewn cyfarfod cymunedol diweddar yn Niwbwrch.
Daeth y pryderon i'r fei gan drigolion yng nghymunedau Niwbwrch, Dwyran a chymunedau cyfagos yn ôl yr heddlu.
Dywed y llu y bydd swyddogion yn "cadw golwg fanwl ar hyn er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto."
Llun: Google