Cwest: Dyn o Sir Gaerfyrddin wedi marw ar ôl ymosodiad gan fuwch
Fe wnaeth dyn o Sir Gaerfyrddin farw ar ôl dioddef anafiadau “difrifol” wedi ymosodiad gan fuwch oedd wedi dianc.
Clywodd cwest ddydd Mercher bod Huw Evans, 75 oed o Hendy-gwyn, wedi marw ychydig o ddyddiau ar ôl yr ymosodiad ar 25 Tachwedd y llynedd.
Roedd Mr Evans yn croesi’r ffordd yng nghanol ei dre am tua 10.15, 19 Tachwedd 2022, pan ymosododd y fuwch arno, a hynny wedi i’r anifail “gwyllt” ddianc o farchnad Mart Hendy-gwyn.
Cafodd Mr Evans, oedd yn gyn-weithiwr i’r cyngor, ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn fuan wedi’r ymosodiad ond fu farw yn sgil ei anafiadau, clywodd y cwest.
Cafodd cwest i’w farwolaeth ei gynnal gerbron Paul Bennett, sef uwch grwner dros dro Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, yn Neuadd y Dref Llanelli ddydd Mercher.
Clywodd y cwest fod y fuwch brid ‘Limousin brown’ wedi dianc wrth gael ei symud o gerbyd, a hynny er mwyn ei chludo i farchnad da byw Mart Hendy-gwyn a gafodd ei gynnal gan JJ Morris Auctioneers.
Fe wnaeth y fuwch rhedeg ar hyd priffordd y dre, cyn ymosod ar Mr Evans. Cafodd trenau eu hatal ar ôl i’r fuwch rhedeg i’r cledrau, a gafodd ei ladd mewn cae cyfagos yn fuan wedyn.
Cwest
Cafwyd datganiadau gan lygad-dystion, gan gynnwys perchennog y fuwch naw oed, Paula Wilson, a ddywedodd ei bod yn "hynod o drist" am yr hyn ddigwyddodd.
Dywedodd nad oedd y fuwch yn dangos arwyddion o "drallod" pan gafodd ei llwytho i’r cerbyd cludo.
Fe gafodd Mart Hendy-gwyn cais ffurfiol i osod grid gwartheg yn dilyn y digwyddiad, ac mae hynny bellach wedi’i gyflawni meddai Finley Harrison o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
“Roedd yna gydweithrediad llawn,” ychwanegodd Mr Harrison.
Yn dilyn ei farwolaeth y llynedd, dywedodd teulu Mr Evans mewn datganiad: “Roedd Huw yn dad, dad-cu, brawd, ewyrth, a ffrind i nifer o bobl - roedd pawb yn ei garu.”