Adeiladau gwag yn cyfrannu at yr argyfwng tai?
Adeiladau gwag yn cyfrannu at yr argyfwng tai?
Mae llawer o son am yr argyfwng tai ond ydi nifer yr adeiladau gwag yn cyfrannu at hyn?
Yn ôl ffigyrau diweddar doedd dim un sir yng Nghymru efo mwy o dai segur na Gwynedd, ac mae canran yr ail gartref ymhlith yr uchaf ym Mhrydain gyfan.
Mae hynny'n gwneud pethau'n anodd i bobl leol fel Dafydd Roberts sydd wedi bod yn chwilio am dy rent efo'i bartner Nicolas ers wyth mis bellach.
"Y broblem ydy'r gystadleuaeth am y tŷ. Es i i weld tŷ ychydig o wythnosau yn ôl. Roedd 250 o bobl wedi trio am y tŷ. Roedd shortlist o 50 o bobl. Doeddan ni ddim yr un ga'th y tŷ yna. 'Dan ni ddim yn siŵr am y cam nesa," meddai Dafydd Roberts.
"Ydan ni dal am fwy yng Nghymru? Byw allan o Gymru? Does dim golau yn niwedd y twnnel. Os ydi pobl ifanc yn gadael eu hardaloedd oherwydd y diffyg tai mae hynny'n destun pryder mawr i rai.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago o Gyngor Gwynedd: "Os oes yna ddim digon o dai i bobl yma a bod cymaint yn wag, mae dau effaith. Mae cymunedau yn wag, does neb yn byw yna, ghost towns. A does dim tai, sy'n pwsho prisiau tai i fyny a mae'r bobl ifanc heb obaith o gael tŷ. "
Ond mae 'na un elusen sy'n gobeithio ateb rhai o'r gweddïau. Hen adeiladau fel y neuadd eglwys yma ydi be mae elusennau fel Housing Justice Cymru yn edrych amdano.
Os nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio ar gyfer eu pwrpas gwreiddiol be am eu troi nhw i mewn i fflatiau neu dai?
Dywedodd Romy Wood o Housing Justice Cymru: "Mae'n bwysig rhoi cyfle i eglwys i ffeindio ffordd i barhau i ddefnyddio eu hadeiladau a tir."
Bydd e'n golled enfawr i wastraffu'r llefydd yma. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno cynllun grant yn gynharach eleni ar gyfer adnewyddu tai.
Ond mae 'na ateb arall wrth gwrs - adeiladu mwy.
Dywedodd Heddyr Gregory o Shelter Cymru: "Dyw pobl ddim yn medru fforddio rhentu'n breifat. 'Dyn nhw ddim yn gallu fforddio prynu tŷ. Yr unig ateb yw adeiladu mwy o dai cymdeithasol sy'n fforddiadwy."
Trafodaeth adeiladol felly ond i lawer, parhau mae'r aros am ddatrysiad.