Newyddion S4C

Protestwyr Just Stop Oil yn chwalu gwydr a oedd yn gwarchod llun yn yr Oriel Genedlaethol

06/11/2023

Protestwyr Just Stop Oil yn chwalu gwydr a oedd yn gwarchod llun yn yr Oriel Genedlaethol

Mae dau brotestiwr amgylcheddol ar ran Just Stop Oil wedi chwalu gwydr a oedd yn gwarchod llun sy'n cael ei arddanogs yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain. 

Defnyddiodd y protestwyr forthwylion diogelwch er mwyn torri'r gwydr a oedd yn gwarchod llun y  Rokeby Venus yn yr amgueddfa yng nghanol Llundain ddydd Llun. 

Yn ôl Heddlu'r Met, mae protestwyr wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol. 

Cafodd y darlun gan yr artist Diego Velazquez eu baentio yng nghanrif 1600. 

A chafodd ei ddifrodi gan y syffragét, Mary Richardson ym mis Mawrth 1914.

Yn ôl Just Stop Oil, y ddau a achosodd y difrod yw Hanan, 22, a Harrison, 20. 

Mae'n nhw'n dweud iddyn nhw weithredu er mwyn galw ar Lywodraeth y DU i atal prosiectau olew a nwy newydd ar unwaith. 

“Methiant yw gwleidyddiaeth. Fe fethodd yn achos menywod yn 1914 ac mae'n ein methu nawr," meddai llefarydd.  

“Bydd olew a nwy newydd yn lladd miliynau. Os ydym yn caru celf, bywyd, ein teuluoedd -  mae'n rhaid i ni atal olew." 

Cafodd criw arall o brotestwyr Just Stop Oil eu harestio ger Downing Street fore Llun am rwystro cerbydau. 

Yn ôl Heddlu'r Met,  fe wnaethon nhw arestio o leiaf 40 o brotestwyr a oedd yn gorymdeithio yn Whitehall. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.