Newyddion S4C

Mamau sy’n gweithio yn ‘ystyried rhoi’r gorau’ i swyddi oherwydd gofal plant

06/11/2023
Mamolaeth

Mae un o bob pump o famau sy’n gweithio wedi ystyried rhoi’r gorau i’w swyddi oherwydd yr heriau o gydbwyso eu gwaith gyda chyfrifoldebau gofal plant, yn ôl ymchwil newydd.

Mae cyfrifoldebau gofal plant yn cael effaith anghymesur ar fenywod â’u gyrfaoedd, yn ôl adroddiad gan gymdeithas Fawcett, sy’n ymgyrchu dros hawliau cyfartal, a gwefan swyddi Totaljobs.

Roedd arolwg o 3,000 o rieni sy’n gweithio yn dangos fod un ymhob 10 o famau wedi rhoi’r gorau i’w swyddi oherwydd cyfrifoldebau gofal plant, gan gynyddu i un ymhob wyth o famau sengl.

Dywedodd prif weithredwr cymdeithas Fawcett, Jemima Olchawski: “Mae’r ychydig flynyddoedd mae mam yn gwario yn edrych ar ôl plant ifanc yn ganran fechan o’i bywyd gwaith.

“Yn rhy aml mae hen ragfarnau a thybiaethau yn golygu fod menywod yn wynebu agweddau diangen a niweidiol sy’n eu dal yn ôl."

Gwyliau heb dâl

Mae gormod o fenywod yn gaeth i swyddi yn is na’u gallu gan golli allan ar gyfleoedd i wella eu gyrfaoedd, yn ôl yr adroddiad.

Nododd yr ymchwil fod tri allan o bob pedwar o rieni sy’n gweithio wedi cymryd gwyliau heb dâl oherwydd cyfrifoldebau gofal plant, gyda lefelau uwch ar gyfer menywod o gefndiroedd di-wyn a mamau sengl. 

Mae'r rhan fwyaf o fenywod wedi wynebu heriau i wella’u gyrfaoedd wrth drefnu gofal plant, ac mae dwy allan o bob pump wedi gwrthod cyfleoedd i wella’u gyrfaoedd oherwydd pryderon na fyddai hynny’n bodloni trefniadau gofal plant, yn ôl yr ymchwil.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.