Arestio dau ddyn yn dilyn ymosodiad yn Abertawe
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau ddyn ar ôl i ddyn o Birmingham gael ei adael mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad yn ardal yr Hafod, Abertawe bythefnos yn ôl.
Dywedodd y llu eu bod nhw wedi arestio dyn 29 oed a dyn 31 oed ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd y Bont ger Tafarn y Villers Arms am 18:45 ar 21 Hydref.
Digwyddodd yr ymosodiad yr un diwrnod a gêm bêl-droed Abertawe yn erbyn Caerlŷr yn Stadiwm Swansea.com.
Yn ôl yr Heddlu De Cymru, fe wnaeth y dyn wrthod cymorth meddygol yn fuan ar ôl yr ymosodiad.
Dywedodd y llu bod y dyn bellach yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl i'w iechyd ddirywio pan ddychwelodd adref i Birmingham.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Evans o Heddlu De Cymru: “Mae ymholiadau helaeth yn parhau i ddod o hyd i’r sawl sydd dan amheuaeth a’r grŵp oedd gyda nhw ond rydyn ni’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda ni."
Dylai unrhyw lygad-dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2300358686.