Russell Brand wedi ei gyhuddo o ymosodiad rhywiol ar set ffilm yn yr Unol Daleithiau
Mae Russell Brand wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar fenyw oedd yn gweithio fel ecstra ar set ffilm, mewn achos cyfreithiol sifil yn yr Unol Daleithiau.
Yn ystod ffilmio Arthur ym mis Gorffennaf 2010, honnir ei fod wedi dinoethi ei hun i’r ddynes, sydd heb ei henwi, cyn ei dilyn i mewn i ystafell ymolchi ac ymosod yn rhywiol arni.
Mae Russell Brand yn wynebu cyhuddiadau o dreisio, ymosodiadau rhywiol a chamdriniaeth emosiynol yn dilyn adroddiadau yn y wasg ym Mhrydain.
Mae'n gwadu'r honiadau ac yn dweud bod ei berthnasoedd "bob amser yn gydsyniol".
Nid yw Mr Brand wedi ymateb i'r achos cyfreithiol eto.
Mae heddlu Prydain wedi dweud eu bod yn ymchwilio i nifer o honiadau a wnaed yn erbyn Brand, ond mae’r achos, a gyflwynwyd i’r Oruchaf Lys yn nhalaith Efrog Newydd ddydd Gwener, yn nodi’r tro cyntaf i unrhyw gyhuddiadau o’r fath gael eu gwneud mewn achos cyfreithiol.
Mewn affidafid, mae’r ddynes – y cyfeirir ati fel Jane Doe – yn honni bod yr actor wedi “ymddangos yn feddw, wedi arogli o alcohol, ac yn cario potel o fodca ar set” cyn yr ymosodiad ar 7 Gorffennaf 2010.
Yna fe wnaeth ddinoethi ei hun i'r ddynes yng ngolwg y cast a'r criw, meddai'r papurau.
Yn ddiweddarach yr un diwrnod dywedodd Jane Doe fod Mr Brand wedi mynd i mewn i'r ystafell ymolchi ar ei hôl ac wedi ymosod arni wrth i "aelod o'r criw cynhyrchu warchod y drws o'r tu allan".
Mae stiwdio ffilm Warner Bros Pictures a chwmnïau eraill a wnaeth ymwneud â'r cynhyrchiad hefyd wedi'u henwi fel diffynyddion.
Fe gafodd y cyhuddiadau gyntaf yn erbyn Mr Brand eu gwneud ar raglen Disptaches ar Channel 4, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gyda The Sunday Times a The Times.
Fe wnaeth pedair dynes honni eu bod wedi dioddef ymosodiadau rhyw rhwng 2006 a 2013, pan oedd gyrfa Brand yn ei anterth ac yntau'n gweithio i BBC Radio 2 a Channel 4, yn ogystal â serennu mewn ffilmiau Hollywood.