AS Ceidwadol yn euog o gam-drin ymgyrchydd yn hiliol
Mae aelod seneddol Ceidwadol wedi’i gael yn euog o gam-drin ymgyrchydd yn hiliol drwy ddweud wrtho am “fynd yn ôl i Bahrain”.
Roedd Bob Stewart, yr AS dros etholaeth Beckenham yn ne-ddwyrain Llundain, wedi dweud wrth Sayed Ahmed Alwadaei “rydych chi’n tynnu arian oddi ar fy ngwlad, ewch i ffwrdd!” yn ystod ffrae y tu allan i bencadlys y Swyddfa Dramor yn San Steffan ar 14 Ragfyr y llynedd.
Roedd y gwleidydd 74 oed wedi bod mewn digwyddiad gan lysgenhadaeth Bahrain pan y gwnaeth Mr Alwadaei weiddi arno: “Bob Stewart, am faint wnaethoch chi werthu eich hun i gyfundrefn Bahrain?”
Yn ystod y ffrae, atebodd Stewart: “Ewch i ffwrdd, rwy'n eich casáu chi. Rydych chi'n gwneud llawer o ffws. Ewch yn ôl i Bahrain.”
Mewn fideo a chwaraewyd yn ystod yr achos yn Llys Ynadon San Steffan ddydd Gwener, dywedodd hefyd: “Nawr byddwch yn dawel, ddyn gwirion.”
Cafodd y Prif ynad Paul Goldspring yr aelod seneddol yn euog o drosedd trefn gyhoeddus oedd yn cynnwys elfen o hiliaeth a rhoddodd ddirwy o £600 Mr Stuart, gyda chostau cyfreithiol ychwanegol yn gwneud cyfanswm o £1,435.
Er iddo ddisgrifio “cymeriad positif aruthrol” Mr Stewart, dywedodd Mr Goldspring: “Rwy’n derbyn nad yw’n hiliol fel y cyfryw, ond nid dyma'r achos yn ei erbyn."
Cyn yr achos llys roedd yr aelod seneddol wedi dweud nad oedd yn hiliol.
“Roedd yn dweud fy mod yn llwgr a fy mod wedi cymryd arian. Roedd fy anrhydedd yn y fantol o flaen nifer fawr o lygad-dystion.
“Fe wnaeth fy ypsetio ac roeddwn i’n meddwl ei fod yn hynod o sarhaus.”
Llun: PA