Newyddion S4C

Agor cwest i farwolaeth y chwaraewr hoci iâ Adam Johnson

03/11/2023
adam johnson.png

Mae Crwner Sheffield, Tanyka Rawden, wedi cynnig ei “chydymdeimlad diffuant” i deulu a ffrindiau chwaraewr hoci iâ Nottingham Panthers Adam Johnson, a fu farw ar ôl cael anaf difrifol yn ystod gêm bron i wythnos yn ôl.

Roedd yr Americanwr 29 oed yn chwarae i’r Panthers yn erbyn Sheffield Steelers yn yr Utilita Arena ddydd Sadwrn pan gafodd ei daro yn ei wddf gan esgid sglefrio gwrthwynebydd, gan achosi anaf angheuol.

Ddydd Gwener, agorodd a gohiriodd Mrs Rawden gwest i farwolaeth Johnson yng Nghanolfan Feddygol-gyfreithiol Sheffield.

Dywedodd y Crwner: “Cafodd Mr Johnson ei anafu’n ddifrifol.

“Cafodd ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Cyffredinol y Gogledd yn Sheffield lle bu farw’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw o ganlyniad i’r anafiadau a gafodd.

“Cafodd ei adnabod gan ei ddyweddi, Ryan Wolfe.”

Gohiriodd Mrs Rawden y cwest tan 26 Ionawr ond pwysleisiodd mai adolygiad oedd hwn am fod ac nid gwrandawiad cwest llawn. Dywedodd fod ymholiadau i'r farwolaeth yn parhau.

Daeth â’r gwrandawiad byr i ben drwy ddweud ei bod am “fanteisio ar y cyfle hwn i gynnig fy nghydymdeimlad diffuant i’w deulu, ei ffrindiau a phawb oedd yn ei adnabod ar yr adeg anodd yma.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.