Arestio dau ddyn ar amheuaeth o dyfu canabis 'ar raddfa fawr' ar Ynys Môn
03/11/2023
Mae dau ddyn wedi’u harestio ar ôl i'r heddlu ddarganfod bod canabis ar raddfa fawr yn cael ei dyfu ar Ynys Môn.
Cafodd y ddau eu harestio wedi i Heddlu Gogledd Cymru weithredu warant chwilio mewn cyfeiriad yng Nghaergeiliog, ger Caergybi ddydd Iau.
Ar ôl cael mynediad i'r eiddo, daeth swyddogion o hyd i ffatri ganabis "soffistigedig" yn yr adeilad.
Arestiwyd dau ddyn 32 a 25 oed ar amheuaeth o droseddau cyffuriau.
Mae’r ddau ddyn yn parhau yn nalfa’r heddlu.