'Arwr': Enwi tad-cu a fu farw ar ôl ceisio achub pobl aeth i drafferthion yn y môr

Mark Ratcliffe

Mae’r heddlu wedi enwi tad-cu ac “arwr” a fu farw ar ôl ceisio achub dau o bobl aeth i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Dwyrain Swydd Efrog. 

Bu farw Mark Ratcliffe yn 67 oed wedi’r digwyddiad ddydd Gwener. 

Roedd Mr Ratcliffe yn anymwybodol pan gafodd ei dynnu o’r môr gan y gwasanaethau brys, ar ôl i swyddogion cael eu galw i Bromenâd Canolog yn Withernsea am tua 15.15. 

Fe wnaeth Mr Ratcliffe farw yn y fan a’r lle, medd Heddlu Humberside. 

Mewn teyrnged iddo ddydd Sul, dywedodd ei deulu: “Roedd yn arwr gwirioneddol anhunanol gyda chalon aur, a gafodd ei gymryd… wrth geisio achub eraill.

“Mae nifer o fywydau bellach wedi’u chwalu oherwydd dy fod di wedi mynd. 

“Roedd cymaint o bobl yn dy garu, a byddwn ni i gyd yn dy golli am byth.

“Gŵr cariadus, tad, mab, brawd a’r tad-cu gorau y gallai unrhyw un erioed ddymuno amdano. Cysga’n dawel, rydyn ni’n dy garu di, rydyn ni’n dy golli di.”

Cafodd corff menyw oedd yn 45 oed ei chanfod nos Wener. 

Mae’r heddlu yn parhau i chwilio am drydydd person sydd yn parhau ar goll. 

Fe gyhoeddodd Gwylwyr y Glannau EM eu bod wedi rhoi’r gorau i’w hymdrech chwilio prynhawn ddydd Sadwrn. 

Yn ôl adroddiadau fe aeth pobl i geisio helpu merch yn ei harddegau aeth i drafferthion ar ôl mynd i mewn i’r môr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.