Newyddion S4C

Atgoffa'r cyhoedd o 'beryglon difrifol' ar noson tân gwyllt

05/11/2023
Tân gwyllt Porthcawl

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn atgoffa'r cyhoedd am 'beryglon difrifol' coelcerthi a chynnau tân gwyllt.

Dywedodd eu bod yn "cynghori pawb i barchu eu cymunedau, amddiffyn eu hunain, eraill, yr amgylchedd, a’r gwasanaethau brys rhag niwed, a mwynhau digwyddiadau trwy ddilyn rhagofalon diogelwch sylfaenol."

Ychwanegodd y gwasanaeth eu bod yn gweld "coelcerthi peryglus" yn cael eu hadeiladau bob blwyddyn, sydd yn cynnwys eitemau sy'n wenwynig neu eitemau sy'n gallu achosi perygl i bobl.

Mae Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol GTACGC, Scott O’Kelly yn erfyn ar bobl i ddilyn y wybodaeth mae'r gwasanaethau tân yn eu darparu:

“Gall yr adeg hon o'r flwyddyn ddod â hwyl ac adloniant i'r teulu cyfan. Fodd bynnag, mae rhai peryglon difrifol yn gysylltiedig â choelcerthi a'r defnydd o dân gwyllt.

"Mae modd lleihau'r peryglon hyn trwy fynychu arddangosfa tân gwyllt swyddogol sydd wedi’i threfnu. Ac er mwyn cadw'n ddiogel a chyfreithlon ar noson tân gwyllt, dilynwch yr wybodaeth ar ein gwefan”.

Cyfarwyddiadau

Yn ôl y gwasanaeth, mae problemau'n codi gyda'r defnydd o dân gwyllt, yn enwedig pan maen nhw'n mynd i'r dwylo anghywir.

Mae tân gwyllt yn cael eu graddio o fewn categorïau, gydag isafswm pellteroedd diogel gwahanol, ac mae ganddynt gyfarwyddiadau penodol y dylid cadw atynt er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu cadw'n ddiogel.

Mae'r gwasanaeth yn gofyn i bobl brynu tân gwyllt gan adwerthwr ag "enw da" ac i ddilyn cyfarwyddiadau tân gwyllt unigol. 

Llun: Peter Morgan / Flickr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.