Cyffro wrth i 'gân olaf' The Beatles gael ei rhyddhau
Fe fydd modd i ffans The Beatles wrando ar "gân olaf" y band pan fydd yn cael ei rhyddhau ddydd Iau, blynyddoedd wedi iddi gael eu hysgrifennu.
Mae Now And Then, gafodd ei hysgrifennu'n wreiddiol gan John Lennon a'i datblygu'n ddiweddarach gan aelodau eraill y band yn cynnwys y diweddar George Harrison, wedi’i chwblhau gan Syr Paul McCartney a Syr Ringo Star ddegawdau'n ddiweddarach.
Fe wnaeth dau aelod olaf y band eiconig ddisgrifio eu teimladau “emosiynol” cyn rhyddhau’r hyn maen nhw’n ei alw’n gân olaf i The Beatles mewn cyfweliad diweddar.
Dywedodd Syr Paul: “Dyma fe, llais John, yn hollol glir. Mae'n eithaf emosiynol ac rydyn ni i gyd yn chwarae yn y gân, mae'n recordiad Beatles go iawn.
“Yn 2023, i barhau i weithio ar gerddoriaeth y Beatles, ac ar fin rhyddhau cân newydd nad yw’r cyhoedd wedi’i chlywed, rwy’n meddwl ei fod yn beth cyffrous.”
Ychwanegodd Syr Ringo Starr: “Dyma’r agosaf y byddwn ni byth yn dod at ei gael yn ôl yn yr ystafell felly roedd yn emosiynol iawn i bob un ohonom. Roedd fel bod John yno, wyddoch chi. Mae'n rhyfeddol.”
Creu'r trac
Gorffennodd Syr Paul a Syr Ringo y gân y llynedd, gan gynnwys gitâr drydan ac acwstig Harrison a recordiwyd yn 1995.
Cafodd y demo ei recordio gan Lennon ar ddiwedd y 1970au yn ei gartref yn Adeilad Dakota, Efrog Newydd, ac mae hefyd yn cynnwys cerddoriaeth piano.
Ar ôl ei farwolaeth yn 1980 yn 40 oed, rhoddodd gwraig Lennon, Yoko Ono, y recordiad i weddill y Beatles ym 1994, ynghyd â chaneuon Free As A Bird a Real Love, a ryddhawyd gan y band yn yr un ddegawd.
Yn ystod y cyfnod hwn, recordiodd Harrison, Syr Paul a Syr Ringo rannau newydd a chwblhau cymysgedd bras ar gyfer Now And Then gyda’r cynhyrchydd a’r cerddor Jeff Lynne.
Ond, ni wnaeth y band ryddhau'r gân, gan fod casglu llais Lennon yn eglur yn gymhleth oherwydd technoleg gyfyngedig y cyfnod.
Defnyddiodd rhaglen ddogfen Peter Jackson yn 2021 The Beatles: Get Back dechnoleg adfer sain a oedd yn caniatáu i lais a cherddoriaeth y band gael eu hynysu.
Roedd hyn yn caniatáu cymysgedd newydd o albwm Revolver y band ac hefyd cyfle i wahanu y llais o'r piano ar gyfer Now And Then.
Bydd rhaglen ddogfen 12 munud o hyd, wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Oliver Murray a gyda sylwebaeth gan Syr Ringo a Syr Paul, yn cael ei rhyddhau gyda’r gân newydd.
Bydd fideo'r gân newydd yn ymddangos am y tro cyntaf ddydd Gwener.
Llun: PA