Newyddion S4C

Cyfradd achosion canser y geg yn cynyddu yng Nghymru

01/11/2023
Canser y geg

Mae cyfradd yr achosion ar gyfer canser y geg yng Nghymru wedi parhau i gynyddu bob blwyddyn ers 2002, medd adroddiad newydd. 

Mae dros 300 o achosion newydd o ganser y geg wedi’u cofnodi yng Nghymru bob blwyddyn yn ystod y degawd diwethaf, yn ôl adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae’r ffigwr yma wedi cynyddu’n gyson ers 2002, pan gafodd 171 o achosion newydd o ganser y geg eu cofnodi. 

Mae nifer y bobl sy’n marw o ganlyniad i ganser y geg hefyd wedi cynyddu. Bu farw 57 o bobl yn 2002, ond erbyn 2021 roedd y ffigwr yma bron wedi dyblu i 103 o farwolaethau.

Dywedodd yr Athro Paul Brocklehurst, sef Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae nifer cynyddol yr achosion o ganser y geg a ffaryngeal wedi bod yn duedd bryderus a nodwyd gan y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd cyhoeddus am nifer o flynyddoedd. 

“Er ein bod yn dal i weld cynnydd cyson yn nifer y marwolaethau o ganser y geg, rydym hefyd wedi nodi gwelliant bach yn y gyfradd oroesi ar bum mlynedd, er nad yw'n anghyffredin gweld y clefyd yn ymddangos eto.”

‘Symptomau’

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog unigolion i fod yn ymwybodol o’r symptomau cynnar o ganser y geg. 

Mae'r symptomau yn cynnwys: 

  • Wlserau a chwyddo yn y geg nad ydynt yn gwella o fewn tair wythnos.
  • Poen yn y geg.
  • Rhannau coch neu wyn yn y geg neu'r gwddf. 
  • Anhawster llyncu.
  • Problemau lleferydd. 
  • Lwmp yn y gwddf.
  • Colli pwysau heb esboniad.
  • Anadl drwg.

“Fel gyda phob canser, mae diagnosis cynnar yn golygu triniaeth gynnar i dargedu canserau cyn iddynt ledaenu,” ychanegodd yr Athro Paul Brocklehurst. 

“Os bydd unrhyw un yn sylwi ar un o'r arwyddion rhybudd, dylent naill ai fynd i weld eu gweithiwr deintyddol proffesiynol neu eu meddyg teulu. 

“Mae hefyd yn hanfodol mynychu archwiliadau deintyddol rheolaidd oherwydd bod gweithwyr deintyddol proffesiynol wedi'u hyfforddi i nodi arwyddion cynnar canser y geg,” meddai. 

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod smygu tybaco, yfed alcohol, gormodedd o olau’r haul a pheidio â bwyta digon o ffrwythau a llysiau i gyd yn cynyddu'r risg o ganser y geg. Mae tystiolaeth hefyd o gysylltiad rhwng haint feirws papiloma dynol (HPV) a chanserau'r geg. 

Mae canser y geg yn effeithio ar ddynion bron ddwywaith yn fwy na menywod, gyda nifer fawr yn datblygu'r canser wedi 40 oed.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.