Rygbi WXV1: Cyhoeddi tîm Menywod Cymru i herio Awstralia
Mae’r prif hyfforddwr Ioan Cunningham wedi enwi tîm menywod Cymru i herio Awstralia yn nhrydedd gêm yr WXV1.
Fe fydd Cymru yn wynebu’r Wallabies yn Stadiwm Go Media Mount Smart, Auckland ddydd Gwener, 3 Tachwedd.
Bydd y canolwr Hannah Jones yn gapten ar dîm Cymru gyda chwe newid i'r llinell gychwyn ac un newid safle o gymharu â'r tîm a wynebodd Seland Newydd yn Dunedin.
Mae Jasmine Joyce, yn symud i safle'r cefnwr gyda Lisa Neuman a Carys Cox yn dychwelyd i'r esgyll.
Mae’r bachwr Carys Phillips a Sisilia Tuipolotu wedi’u henwi yn y rheng flaen, gyda Gwenllian Pyrs yn dechrau ei thrydedd gêm yn y gystadleuaeth.
Yn yr ail reng, bydd Georgia Evans ochr yn ochr ag Abbie Fleming.
Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Dyma ein gêm olaf o’r ymgyrch WXV1 hon, ac rydym yn benderfynol o gynhyrchu perfformiad ar lefel uchel yn erbyn Awstralia yn Auckland nos Wener.
“Rydyn ni’n gwybod bod hon yn her fawr arall i ni, ond dyma’r gemau prawf rydyn ni eisiau eu chwarae cyn Cwpan y Byd 2025.
"Rydym wedi gwneud newidiadau ac wedi cylchdroi'r garfan ar gyfer ein trydedd gêm a'r nod yw adeiladu ein cryfder ar lefel ryngwladol.
"Rydyn ni'n gwybod lle mae'n rhaid i ni wella a beth yw ein cryfderau a bydd chwarae'r lefel hon o wrthwynebiad ond yn dda i ni yn y tymor hir. Mae wedi bod yn daith heriol, ond mae'r garfan bellach yn canolbwyntio'n llwyr ar Awstralia."