Newyddion S4C

Lansio gêm Scrabble Gaeleg

31/10/2023
Scrabble Gaeleg

Mae gêm Scrabble bellach ar gael yn yr iaith Aeleg.

Ar ôl darganfod nad oedd fersiwn Aeleg yn bodoli, gofynnodd Dr Teàrlach Wilson, cyfarwyddwr canolfan ddiwylliannol An Taigh Cèilidh, i gwmni Tinderbox Games greu Scrabble Gaeleg.

Mae’r bwrdd a’r rheolau yn iaith Gaeleg yr Alban, ac mae acenion yn ymddangos ar rai o'r teils llafariaid, sef À È Ì Ò Ù.

Dywedodd Dr Wilson ei fod wedi chwarae Scrabble Cymraeg droeon ar hyd y blynyddoedd a'i fod yn falch bod fersiwn ar gael yn y Gaeleg bellach.

Cystadleuaeth

I lansio'r Scrabble Gaeleg, bydd canolfan An Taigh Cèilidh yn cynnal Pencampwriaethau Scrabble y Byd Gaeleg cyntaf erioed ar 2 Rhagfyr 2023. 

Dywedodd Dr Wilson: “Ni allaf aros i chwarae.

"Ond os byddaf yn ennill, bydd pobl yn meddwl ei fod wedi’i rigio ac os dwi'n colli, bydd pobl yn cwestiynu pam fod gen i PhD mewn Gaeleg.” 

Dywedodd Mr Jim Harrison, Prif Swyddog Gweithredol Tinderbox Games: "Mae’n wych gweld y fersiwn ddiweddaraf hon o Scrabble yn ymuno â’n rhifynnau Cymraeg a Gwyddeleg llwyddiannus, diolch i lawer o waith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan dîm An Taigh Cèilidh. 

"Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau ei chwarae cymaint ag y gwnaethon ni fwynhau ei gwneud."

Scrabble Cymraeg

Cafodd y Scrabble Cymraeg ei chyhoeddi gyntaf ym mis Medi 2005.  

Bu tipyn o ddadlau nôl yn 2016 yn sgil erthyglau a nododd nad oedd siop lyfrau Waterstones yng Nghaerfyrddin wedi gwerthu’r un o’u pum copi o’r gêm fwrdd Gymraeg ers 2014.

Fe ymatebodd nifer o bobl i'r stori ar gyfryngau cymdeithasol, gan awgrymu fod yr erthygl yn bychanu’r iaith Gymraeg.

Llun: An Taigh Cèilidh

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.