
Gwyliwch: Carcharu dyn am 11 mlynedd ar ôl iddo fynd i mewn i siop â chyllell wyth modfedd
Gwyliwch: Carcharu dyn am 11 mlynedd ar ôl iddo fynd i mewn i siop â chyllell wyth modfedd
Mae dyn wedi ei garcharu am fynd i mewn i siop fetio a bygwth gweithiwr yno gyda chyllell wyth modfedd.
Fe gafodd Anton Jones ei garcharu am 11 mlynedd a hanner ar ôl y digwyddiad mewn siop Betfred ynghanol Merthyr Tudful.
Roedd y dyn 46 oed wedi gwisgo balaclafa ac wedi cuddio’r gyllell i fyny ei lewys.
Ni wnaeth siarad ar ôl mynd i mewn i’r siop am ei fod yn gwsmer cyson ac y byddai’r staff wedi adnabod ei lais, meddai’r heddlu.
Fe wnaeth e ddwyn tua £600.

Llwyddodd yr heddlu i olrhain taith Anton Jones i’r siop ac yn ôl drwy wylio delweddau camerâu cylch cyfyng.
Fe wnaethon nhw ddod o hyd i ddillad oedd yn eiddo iddo ger Afon Taf. Roedd ôl ei DNA ar y dillad.
“Mae Jones yn droseddwr cyfresol ac mae ganddo bedair euogfarn am ddwyn gan ddefnyddio cyllell yn y gorffennol,” meddai'r Ditectif Gwnstabl Paul Bishop.
“Roedd hon yn ymdrech tîm i sicrhau bod troseddwr peryglus yn wynebu cyfiawnder.”