Rhybudd melyn i rannau o Gymru wrth i Storm Ciarán nesáu
Mae rhybudd melyn am law trwm yn parhau mewn grym ar gyfer rhai o siroedd de a chanbolbarth Cymru, gyda disgwyl i'r tywydd stormus barhau am y rhan helaeth o'r wythnos.
Daeth y rhybudd i rym ddydd Sul ac fe fydd yn parhau hyd at 9.00 fore Llun, ac mae rhybudd arall ar gyfer dydd Mercher a Iau wrth i Storm Ciarán agosau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei fod yn debygol o effeithio ar wasanaethau trên a bws ddydd Llun, gyda disgwyl i deithiau gymryd mwy o amser.
Mae yna hefyd rybudd y gallai effeithio ar gyflenwadau trydan.
Roedd rhybudd gan Heddlu Aberteifi am lifogydd yno nos Sul.
Inline Tweet: https://twitter.com/DPPCardigan/status/1718704491191791710?s=20
Yn y de, mae ffordd Pont-Y-Cob ar gau i’r ddau gyfeiriad yn Abertawe wrth i swyddogion yr heddlu geisio tynnu cerbyd o'r dŵr ar ôl llifogydd.
Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi annog modurwyr i osgoi’r ardal, gan rybuddio am oedi posib.
Mae'r rhybudd tywydd yn effeithio ar y siroedd canlynol ddydd Llun. ,
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Powys
- Abertawe
- Sir Gaerfyrddin
Inline Tweet: https://twitter.com/metoffice/status/1718599748486344930?s=20
Mae’r rhybudd arall ar gyfer dydd Mercher ac Iau ar gyfer de a chanolbarth Cymru sy'n dweud wrth bobl baratoi ar gyfer llifogydd.
Daw wrth i wyntoedd cryfion a glaw trwm Storm Ciarán daro Cymru a de Lloegr wedi cyfnod o dywydd gwlyb.
Dywedodd Dirprwy Brif Feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, Chris Almond, fod disgwyl i wyntoedd gyrraedd hyd at 90mya ar hyd yr arfordir mewn rhai ardaloedd.
“Bydd gwasgedd isel hefyd yn dod â glaw trwm i rannau o'r DU, gyda disgwyl i ardaloedd yn y de a’r gorllewin cael eu heffeithio fwyaf," meddai.
“Bydd tua 20 i 25mm o law i’r rhan fwyaf yno, gyda'r posibilrwydd o 40 i 60mm o law ar dir uchel.
“Bydd glaw trwm a pharhaus yn disgyn ar dir sydd eisoes yn wlyb gan achosi perygl o lifogydd – a hynny mewn ardaloedd sydd eisoes wedi gweld glaw trwm dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf."