Newyddion S4C

Yr actor Matthew Perry, seren Friends, wedi marw'n 54 oed

29/10/2023
Matthew Perry

Mae'r actor Matthew Perry, seren y gyfres gomedi Friends, wedi’i ddarganfod yn farw yn ei gartref yn Los Angeles yn 54 oed.

Mae'n ymddangos fod seren un o'r cyfresi teledu mwyaf poblogaidd erioed wedi boddi yn ei gartref yn ôl papur newydd The Los Angeles Times.

Mewn datganiad dywedodd Warner Bros, y stiwdio oedd yn gyfrifol am Friends: “Roedd Matthew yn actor hynod ddawnus ac yn rhan hanfodol  o deulu Warner Bros.

“Teimlwyd effaith ei athrylith ar gomedi ledled y byd, a bydd ei etifeddiaeth yn parhau yng nghalonnau cymaint.

“Mae hwn yn ddiwrnod torcalonnus, ac rydyn ni’n anfon ein cariad at ei deulu, ei anwyliaid, a’i holl gefnogwyr ffyddlon”

Dywedodd heddwas o Los Angeles wrth asiantaeth newyddion Associated Press eu bod wedi cael eu galw i gartref yr actor i gynnal “ymchwiliad i farwolaeth dyn yn ei 50au”.

Enwebwyd Perry am wobr Emmy am ei rôl fel Chandler Bing yn Friends, gafodd ei ddarlledu rhwng 1994 a 2004.

Ymunodd â’i gyd-sêr Jennifer Aniston, Courteney Cox, Matt LeBlanc, Lisa Kudrow a David Schwimmer ar gyfer aduniad arbennig a gynhaliwyd gan James Corden yn 2021.

Yn ystod ei amser ar y gyfres, cafodd drafferthion iechyd gyda dibyniaeth a gorbryder. Fe ddisgrifiodd ei broblemau yn ei hunangofiant Friends, Lovers, and the Big Terrible Thing a gyhoeddwyd yn 2022.

Llun: Ian West/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.