Newyddion S4C

RAAC: Rhagor o wersi wyneb yn wyneb mewn ysgol ym Môn wedi hanner tymor

28/10/2023
Ysgol Caergybi

Mae Cyngor Ynys Môn wedi cyhoeddi y bydd mwy o wersi wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal mewn ysgol ar yr ynys sydd wedi ei heffeithio gan goncrit diffygiol RAAC.

Bydd mwy o ddisgyblion yn cael dychwelyd i wersi wyneb yn wyneb yn Ysgol Uwchradd Caergybi ar ôl y gwyliau hanner tymor medd yr awdurdod lleol.

Mae’r gwaith angenrheidiol yn Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes mewn ymateb i’r argyfwng RAAC "yn dod yn ei flaen yn dda" meddai datganiad y cyngor.

Mae’r adeiladau yn y ddwy ysgol "wedi cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd" ac mae Ysgol David Hughes eisoes wedi croesawu pob disgybl yn ôl. 

Mae Ysgol Uwchradd Caergybi yn dal i gynnig cymysgedd o wersi o bell a gwersi wyneb yn wyneb ac mae’r disgyblion yn dod i’r ysgol yn eu tro fesul blwyddyn.

Mae Cyngor Ynys Môn yn dal i weithio gyda’r ddwy ysgol, contractwyr allanol a chydweithwyr o Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i "ddatrysiadau cynaliadwy, ac, yn bwysicach fyth, diogel" medd y cyngor.

Dyma'r sefyllfa ddiweddaraf yn y ddwy ysgol yn ôl Cyngor Ynys Môn:

Ysgol Uwchradd Caergybi

  • Mae gwaith ar y gwahanol flociau yn mynd rhagddo. Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau bydd mwy o gyfleoedd i gynnal gwersi wyneb yn wyneb.
  • Mae’r gwaith adfer yn y ffreutur bron â’i gwblhau a bydd ar gael i bawb wedi hynny.
  • Mae’r gwaith yn y campfeydd yn mynd rhagddo.

Ysgol David Hughes,  Porthaethwy

  • Bydd y llawr cyntaf ar gael yn fuan ar ôl y gwyliau hanner tymor; gan gynyddu capasiti’r adeilad.
  • Mae gwaith archwilio manwl wedi cadarnhau fod dyluniad y toeau yn caniatáu cynhaliaeth ddigonol i’r paneli RAAC.
  • Disgwylir canlyniadau archwiliad scan laser er mwyn adnabod unrhyw baneli unigol sydd angen gwaith adfer. Mae amserlen dychwelyd yr ail lawr yn ôl i ddefnydd yr ysgol yn ddibynnol ar niferoedd y paneli adnabyddir.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J Williams: “Rydym yn deall yn iawn ac yn gwerthfawrogi bod hwn yn dal i fod yn gyfnod heriol iawn i bawb. Hoffwn dawelu meddyliau rhieni, staff a disgyblion bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud yn y cefndir. Mae’r gwaith yn cymryd amser, ond mae goleuni ym mhen draw’r twnnel.

“Hoffem ddiolch i’r ddau bennaeth, staff yr ysgol, disgyblion a rhieni am eu cydweithrediad, amynedd a chefnogaeth barhaus.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi: “Gallwch fod yn hollol sicr ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu, mor gyflym ag y gallwn, i wneud yn siŵr bod pob disgybl yn gallu dychwelyd i Ysgol Uwchradd Caergybi yn ddiogel. 

"Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo yn Ysgol David Hughes i wneud yn siŵr bod mwy o gyfleusterau’r ysgol yn gallu ailagor yn ddiogel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.