Gwahardd Crispin Blunt AS o'r blaid Geidwadol ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o dreisio
Mae’r Aelod Seneddol Crispin Blunt wedi'i wahardd o'r blaid Geidwadol am y tro wedi iddo gadarnhau ei fod wedi ei arestio ar amheuaeth o dreisio.
Yn dilyn stori ym mhapur newydd The Sun, cadarnhaodd Mr Blunt, yr Aelod Seneddol dros Reigate ers 1997, mai ef oedd y gwleidydd dan sylw a gafodd ei arestio ar amheuaeth o dreisio a bod â sylweddau dan reolaeth ('controlled substances') yn ei feddiant.
“Rydw i bellach wedi cael fy nghyfweld ddwywaith mewn cysylltiad â’r digwyddiad yma, a roedd y tro cyntaf dair wythnos yn ôl," meddai.
“Roedd yr ail waith yn gynharach bore ‘ma yn dilyn rhybudd wedi’r arestio.
“Roedd yr arestio yn hollol ddiangen gan fy mod i’n barod i gydweithredu yn llawn gyda’r ymchwiliad. Dwi’n hyderus y bydd yn dod i ben heb gyhuddiad.”
Inline Tweet: https://twitter.com/CrispinBlunt/status/1717585117932142922
Mae Mr Blunt hefyd wedi cael gorchymyn i gadw draw o Senedd San Steffan.
Cadarnhaodd Heddlu Surrey fod dyn wedi’i arestio fore Fercher.
Mae'r Blaid Geidwadol wedi gwrthod gwneud sylw hyd yma ond wedi cadarnhau fod Mr Blunt wedi colli'r chwip.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Gallwn gadarnhau bod dyn wedi’i arestio fore ddoe (Hydref 25)… ar amheuaeth o dreisio a bod â sylweddau dan reolaeth yn ei feddiant.
“Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol yr heddlu tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.”