
Protestwyr hinsawdd Cymru yn mynnu fod y G7 yn gweithredu

Protestwyr hinsawdd Cymru yn mynnu fod y G7 yn gweithredu
Cafodd cyfres o brotestiadau hinsawdd eu cynnal ledled Cymru ddydd Mercher i dynnu sylw arweinwyr y byd at gynnydd mewn lefelau môr cyn Cynhadledd G7 dros y penwythnos.
Mae’r protestwyr yn galw ar arweinwyr y byd i flaenoriaethu newid hinsawdd cyn iddyn nhw gwrdd yng Nghernyw ddydd Gwener.
Ymysg yr arweinwyr byd fydd yn mynychu’r gynhadledd, fydd Arlywydd yr UDA, Joe Biden, a Changhellor Yr Almaen, Angela Merkel.
Daeth ymgyrchwyr at ei gilydd ym Mhenmaenmawr, Borth, Aberystwyth ac Aberteifi yn ogystal â lleoliadau eraill, gyda digwyddiadau wedi eu cynnal yng Nghaerdydd yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd Extinction Rebellion Cymru, a gymerodd rhan yn y digwyddiadau: “Rydym ni yn barod yn boddi mewn addewidion, nawr rydym ni’n mynnu gweithrediad.
“Nid adeiladu amddiffynfeydd môr uwch yw’r ateb. Taclo allyriadau, yn enwedig ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, sydd angen".
Daw’r protestiadau wedi i wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor rybuddio y gallai cynnydd mewn lefelau môr foddi cymunedau arfordirol gogledd Cymru erbyn diwedd y ganrif.
Fe rannodd yr ymgyrchwyr wybodaeth am gynnydd mewn lefelau môr â'r cyhoedd, gan gynnwys mapiau o lifogydd o amgylch ardaloedd arfordirol yng Nghymru.

Ychwanegodd Extinction Rebellion Cymru: “Gellir gweld effeithiau dinistriol llifogydd ar draws y byd, a gyda llifogydd difrifol yn troi’n ddigwyddiad blynyddol yng Nghymru, nid gwledydd yn y Global South yn unig sydd bellach yn profi effeithiau gwaethaf newid hinsawdd".
“Does gennym ni ddim llawer o amser ar ôl i newid pethau”, dywedodd un o’r protestwyr ym Mhenmaenmawr, Morris Owen. “Mae ‘na ryw tipping point yn mynd i ddŵad.”

Yng Nghynhadledd G7, bydd arweinwyr y saith economi mwyaf datblygedig y byd, gan gynnwys Yr Eidal, Canada, Ffrainc, a Siapan, yn dod at ei gilydd i drafod y materion mwyaf mae’r byd yn ei hwynebu.
Fe fydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghernyw dros y penwythnos.