Newyddion S4C

Dennis Gethin, cyn Ysgrifennydd a chyn Lywydd Undeb Rygbi Cymru wedi marw

25/10/2023
DGURC

Mae cyn Ysgrifennydd a chyn Lywydd Undeb Rygbi Cymru, Dennis Gethin, wedi marw’n 79 oed.

Cafodd ei eni ym Mlaendulais ac fe gafodd yrfaoedd nodedig yn y byd rygbi ac ym myd y gyfraith.

Ef oedd 11eg Ysgrifennydd URC a’r olaf i wneud y swydd honno cyn i’r Undeb droi at fodel cyflogi Prif Weithredwr yn hytrach nag Ysgrifennydd yn 2002.

Cafodd ei urddo yn Eisteddfod Genedlaethol 2015.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Richard Collier-Keywood, Cadeirydd Presennol Undeb Rygbi Cymru: “Yn ystod ei gyfnod o 12 mlynedd fel Llywydd, fe hawliodd barch am ei waith caled, ei ymroddiad a’i natur foneddigaidd yn ogystal â’i hiwmor heintus.

“Er iddo ddilyn yn ôl traed rhai o fawrion gweinyddol y gamp – llwyddodd i weithredu’n effeithiol ac urddasol gan osod stamp ei hun ar y gwaith.

“Yn 2016, derbyniodd OBE am ei wasanaeth i Rygbi Cymru yn dilyn ei gyfnod o bum mlynedd yn Ysgrifennydd yr Undeb.

“Bydd yn cael ei gofio am ei waith di-flino wrth hyrwyddo gwaith elusennol yr Undeb a’i ymrwymiad i’r unigolion oedd yn derbyn cefnogaeth hefyd.

“Mae cydymdeimlad yr holl deulu rygbi yma yng Nghymru yn cael ei estyn at Jan, ei deulu a’i ffrindiau. ‘Roedd Dennis yn was hynod ffyddlon i’r gamp yng Nghymru a bydd gwir golled ar ei ôl.”

Llun: URC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.