Rygbi WXV1: Saith newid i dîm Menywod Cymru i herio Seland Newydd
Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham, wedi enwi ei dîm i herio Seland Newydd ym Mhencampwriaeth y WXV1.
Bydd Cymru yn herio pencampwyr y byd ar domen eu hunain, yn Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin, ddydd Sadwrn.
Colli oedd hanes Cymru yn eu gêm agoriadol 42-22 yn erbyn Canada y penwythnos diwethaf.
Mae Ioan Cunningham wedi gwneud saith newid i'r tîm wnaeth gychwyn y gêm honno.
Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y pymtheg cychwynnol unwaith yn rhagor.
Bydd y cefnwr 18 oed Nel Metcalfe, yn dechrau ei gêm gyntaf dros ei gwlad, wedi iddi ennill ei chap cyntaf yn y fuddugoliaeth o 38-18 yn erbyn yr Unol Daleithiau ym Mae Colwyn fis diwethaf.
Mae Kelsey Jones, a enillodd yr Uwch Gynghrair yn Lloegr gyda’i chlwb Caerloyw-Hartpury y tymor diwethaf, yn dychwelyd yn safle’r bachwr.
Bydd y prop Donna Rose hefyd yn cychwyn am y tro cyntaf ers i Gymru wynebu Seland Newydd yng Nghwpan y Byd.
Bydd yr wythwr profiadol Sioned Harries yn ennill cap rhif 77 ddydd Sadwrn, tra y bydd Alisha Butchers yn dechrau ar ochr dywyll y rheng ôl – a hi hefyd fydd yr is-gapten.
Lleucu George sydd wedi ei dewis yn faswr ac mae Hannah Bluck yn chwarae fel un o'r canolwyr.
Mae Carys Williams-Morris wedi ei dewis ar un asgell – gyda Jasmine Joyce yn symud o safle’r cefnwr – i’r asgell arall.
Her
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham: "Y bwriad wrth ddod â charfan o 30 gyda ni oedd rhoi’r cyfle i gymaint o chwaraewyr â phosibl – i gael y profiad o herio timau gorau’r byd yn y WXV.
"Mae wynebu pencampwyr y byd ar eu tomen eu hunain yn dipyn o her – ond dyna pam ‘ry’n ni yma – i brofi’n hunain yn erbyn y goreuon.
"Ry’n ni’n chwilio am berfformiad da – ond mae’n rhaid i ni hefyd ychwanegu at ddyfnder ein carfan – gan y bydd hynny’n allweddol yn ein hymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2025 yn Lloegr.
"Mae Nel wedi creu argraff fawr ar bawb ac mae hi’n llawn haeddu ei chyfle i ddangos ei doniau. Mae ei siwrnai a’i datblygiad ers cynrychioli’r tîm o dan 20 yng Nghanada dri mis yn ôl wedi bod yn eithriadol.
"Mae Kelsey a Donna yn cael y cyfle i ddechrau’r gêm a bydd profiad sylweddol Sioned yn werthfawr i ni hefyd. Mae Lleucu a Hannah Bluck wedi ymarfer yn dda ac felly maen nhw’n haeddu eu cyfle hefyd. Ein gobaith yw cael y bêl mas i Jaz a Carys ar yr esgyll gan y gallwn fod yn fygythiol yn yr agwedd honno o chwarae.
"Bydd angen i ni ddiogelu a gwarchod y bêl yn well nag y gwnaethon ni’n erbyn Canada – ond fe ddangoson ni yn Wellington ein bod yn gallu cystadlu gydag unrhyw dîm."
Tîm Cymru i herio Seland Newydd
15. Nel Metcalfe
14. Jasmine Joyce
13. Hannah Jones (Capten)
12. Hannah Bluck
11. Carys Williams-Morris
10. Lleucu George
9. Keira Bevan
1. Gwenllian Pyrs
2. Kelsey Jones
3. Donna Rose
4. Abbie Fleming
5. Kate Williams
6. Alisha Butchers (Îs-gapten)
7. Alex Callender
8. Sioned Harries
Eilyddion:
16. Kat Evans
17. Abbey Constable
18. Sisilia Tu’ipulotu
19. Bryonie King
20. Bethan Lewis
21. Meg Davies
22. Robyn Wilkins
23. Meg Webb
Llun: Asiantaeth Huw Evans