Newyddion S4C

Rhybudd bod angen tanwydd ar unwaith yn Gaza

25/10/2023
Israel

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio y bydd yn rhaid iddyn nhw roi'r gorau i'w gwaith yn Gaza nos Fercher oni bai y daw cyflenwadau newydd o danwydd yno. 

Mae'r cyflenwadau'n brin iawn yno bellach, medd y Cenhedloedd Unedig, wrth i Israel atal tanwydd rhag cyrraedd Gaza. Mae'r Israeliaid yn cyhuddo Hamas o gadw cannoedd o filoedd o litrau o danwydd.

Mae ysbytai yn Gaza ym ymdrin ag achosion brys yn unig bellach.

Nos Fawrth, fe deithiodd  wyth lori yn cludo bwyd, dŵr, a meddyginiaeth o’r Aifft i Gaza, ond mae gweithwyr dyngarol yn dweud bod angen o leiaf gant o loriau bob dydd i gwrdd â'r galw. 

Dywedodd Dr Richard Peeperkorn, o Sefydliad Iechyd y Byd, ar raglen Today ar BBC Radio 4 : “Mae gennym ni dimau ar lawr gwlad yn Gaza ac rydyn ni’n gwybod bod tanwydd yn gyfyngedig iawn.

“Mae’r ysbytai rydyn ni’n gweithio gyda nhw, i gyd yn rhedeg y generadur ar lefelau gofynnol, dim ond ar gyfer llawdriniaethau achub bywyd.”

Wrth i'r ymosodiadau yn Gaza barhau, mae adroddiadau fod wyth o filwyr Syria wedi eu lladd yn ystod cyrchoedd Israel ar safleoedd milwrol yn nhalaith ddeheuol Daraa, yn Syria. 

Dywedodd asiantaeth newyddion Syria, SANA, fod yr ymosodiad wedi digwydd tua 01:45 amser lleol ddydd Mercher.

Mae saith o filwyr Syria hefyd wedi'u hanafu, medd yr adroddiadau.

Daeth cadarnhad gan Israel eu bod nhw wedi ymosod ar dargedau Syria. 

Mae mwy na 200 o Israeliaid yn dal i gael eu cadw'n wystlon gan Hamas yn Gaza. Hyd yn hyn, mae pedwar ohonyn nhw wedi eu rhyddhau.  

Wrthi  Israel barhau i fomio Gaza, mae'r weinyddiaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas yn dweud bod bron i 5,800 o bobl wedi eu lladd yno ers 7 Hydref.   

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf, mae tua 1.4 miliwn o Balesteiniaid ar Lain Gaza wedi ffoi o'u cartrefi.  

Cafodd mwy na 1,400 o bobl eu lladd yn Israel yn yr ymosodiadau gan Hamas ar 7 Hydref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.