Dedfryd oes i gyn blismon am droseddau rhyw yn erbyn plant
Dedfryd oes i gyn blismon am droseddau rhyw yn erbyn plant
Mae cyn blismon 24 oed gyda Heddlu'r De wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes.
Bydd yn treulio isafswm o 12 mlynedd o dan glo.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Lewis Edwards o Ben-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gyfrifol am gyflawni blacmel yn achos dros 200 o ferched yn eu harddegau, a'u perswadio i anfon delweddau anweddus o'u hunain ato.
Gwrthododd ymddangos yn y llys ar gyfer ei achos dedfrydu.
Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke wrth ddedfrydu Edwards ddydd Mercher fod "llawer o'i ddioddefwyr a'u teuluoedd wedi dweud fod ei weithredoedd wedi achosi iddynt golli ffydd yn yr heddlu.
"Does dim dwywaith ei fod wedi achosi niwed sylweddol i enw da Heddlu De Cymru a phlismona yn gyffredinol ond dylid hefyd cofio mai swyddogion o Heddlu De Cymru wnaeth ymchwilio i'r achos yma a sicrhau cyfiawnder."
Wrth ddisgrifio ei droseddau, dywedodd: "Roedd gan y diffynnydd batrwm ymddygiad. Roedd yn cysylltu ar-lein gyda merch.
"Roedd yn honni ei fod yn fachgen o oed tebyg. Roedd yn meithrin perthynas amhriodol gyda ei ddioddefwyr yn seicolegol nes iddo eu rheoli.
Ychwanegodd y Barnwr Lloyd-Clarke fod y niwed a achosodd Edwards i'w ddioddefwyr hefyd yn "ymestyn yn ehangach i rieni, brodyr a chwiorydd a theulu ehangach ei ddioddefwyr.
Dywedodd wrth y llys mai Edwards oedd yr unig berson oedd yn gyfrifol am ei droseddau, a'i fod yn peri risg uchel o berygl i blant.
Clywodd y llys i Edwards feithrin perthynas amhriodol â 210 o ferched ifanc rhwng 10 ac 16 oed ar Snapchat dros gyfnod o dair blynedd.
Roedd wedi esgus bod yn fachgen 14 oed, gan orfodi ei ddioddefwyr i ddarparu fideos a delweddau anweddus ohonyn nhw eu hunain.
Defnyddiodd y deunydd anweddus i flacmelio ei ddioddefwyr i anfon rhagor o ddelweddau ato.
Mewn gwrandawiad blaenorol plediodd Edwards yn euog i 162 o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant.
Ymunodd Lewis Edwards â’r heddlu ym mis Ionawr 2021.
Cafodd ei wahardd rhag gweithio ym maes plismona wedi gwrandawiad camymddwyn yn ei erbyn.
Cyrch
Dywedodd Roger Griffiths ar ran yr erlyniad fod ditectifs wedi cynnal cyrch ar y cartref yr oedd Edwards yn ei rannu gyda’i rieni ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Chwefror eleni gan ddod o hyd i ffonau symudol, cyfrifiadur, a ffyn USB.
Clywodd y llys fod Edwards mewn cysylltiad â 210 o ferched rhwng Tachwedd 2020 a Chwefror 2023 a bod swyddogion wedi dod o hyd i ddelweddau yn ymwneud â 207 o ddioddefwyr.
Mewn datganiad effaith dioddefwr, disgrifiodd un ferch Edwards fel “pedoffeil” gan ychwanegu: “Roeddwn i’n ferch fach. Rwy'n teimlo embaras, wedi fy ffieiddio a chael fy ngham-drin. Collais fy niniweidrwydd.
“Rwy’n gwybod bod yr heddlu yno i’n helpu ond sut gallaf ffonio’r heddlu nawr os ydw i mewn perygl? Ni fyddwn yn gallu ymddiried yn y bobl sydd yno i’n cadw’n ddiogel.”
Wrth ymateb i'r ddedfryd fore Mercher, dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r De, Danny Richards : "Mae troseddau Lewis Edwards yn gywilyddus a bydd y cyhoedd wedi eu syfrdanu a'u ffieiddio o glywed am y fath droseddau ofnadwy gan blismon.
"Pan gawsom wybod fod y troseddwr yn gwasanaethu fel plismon, cafodd Edwards ei wahardd a chollodd ei swydd mewn gwrandawiad camymddwyn a gafodd ei gynnal ar y cyfle cynharaf posibl, er mwyn cael ei wared o faes plismona."
"Mae ei ymddygiad yn niweidio ymddiriedaeth y cyhoedd a'u hyder ym maes plismona, ac yn tanseilio gwaith plismyn sy'n gweithio'n galed ac yn ymddwyn yn gyfrifol, er mwyn gwasanaethu cymunedau De Cymru gyda dewrder a balchder."
"Rwy'n deall y bydd bobl yn gofyn sut y llwyddodd Edwards i ymuno â'r heddlu ar yr adeg pan roedd yn cyflawni'r troseddau ofnadwy hyn.
"Pan ymunodd â Heddlu De Cymru, cafodd archwiliadau eu cynnal i'w gefndir, a doedd dim oll yn dynodi ei fod yn troseddu yn erbyn plant."