Newyddion S4C

Cyflog Byw Gwirioneddol i godi 10% oherwydd costau byw

24/10/2023
arian

Bydd y cynllun gwirfoddol Cyflog Byw Gwirioneddol yn codi 10% ar gyfer gweithwyr, er mwyn adlewyrchu'r "argyfwng costau byw presennol."  

Mae hynny'n golygu y bydd mwy na 460,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithio i gyfanswm o 14,000 o gyflogwyr yn derbyn codiad cyflog.

Yn ôl y Sefydliad Cyflog Byw, bydd eu cyfradd yn codi i £12 yr awr y tu allan i Lundain, sy'n gynnydd o £1.10. 

£13.50 fydd y gyfradd yn Llundain, sef cynnydd o £1.20.

Yn ôl y sefydliad, mae'r cynnydd o 10% yn dod i rym ddydd Mawrth, ac yn ymateb i'r “costau cynyddol uwch” ar gyfer gweithwyr ar gyflogau isel. 

Nid oes gorfodaeth ar gyflogwyr i ymuno'r â'r cynllun Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae'r gyfradd yn wirfoddol ac yn cael ei chynnig i bobl dros 18 oed, ac mae'n wahanol i'r cynllun gorfodol Cyflog Byw Gwladol ar gyfer gweithwyr dros 23 oed sy'n £10.42 yr awr.

Bydd gweithwyr llawn amser sy'n ennill y Cyflog Byw Gwirioneddol yn ennill £3,081 y flwyddyn yn fwy na gweithwyr sy'n derbyn isafswm y Cyflog Byw Gwladol. 

Yn ôl y sefydliad, mae eu hymchwil yn dangos fod yr esgid yn dal i wasgu er bod chwyddiant yn gostwng, gyda 50% o weithwyr ar gyflogau isel mewn sefyllfa llai llewyrchus na blwyddyn yn ôl.

Roedd mwy na dau o bob pump o weithwyr ar gyflogau isel yn y DU yn dweud eu bod yn defnyddio banciau bwyd yn gyson, gyda thua'r un ganran yn methu â thalu eu biliau, yn ôl casgliadau'r gwaith ymchwil.  

Dywedodd cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw, Katherine Chapman: “Wrth i chwyddiant leddfu, ni allwn anghofio fod gweithwyr ar gyflog isel yn parhau i fod ar begwn mwyaf bregus yr argyfwng costau byw."  

“Bydd y cyfraddau newydd hyn o gymorth i 460,000 o weithwyr a fydd yn cael codiad cyflog.”

Yn ôl y sefydliad, mae nifer fawr o gyflogwyr bellach yn ymuno â'r cynllun cyfradd gwirfoddol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.