Syr Keir Starmer wedi cael trafodaethau 'cadarnhaol' wrth ymweld â Tata Steel ym Mhort Talbot
Mae Syr Keir Starmer wedi cynnal trafodaethau 'cadarnhaol' yn ystod ymweliad i safle gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot ddydd Llun.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gytundeb gwerth £500 miliwn ym mis Medi mewn ymdrech i ddatgarboneiddio safle gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot.
Ond dywedodd yr adran fusnes mai dim ond 5,000 o'r 8,000 o swyddi ar draws y DU y byddai'r cytundeb yn gallu ei achub.
Bydd rhaid i Tata Steel ymrwymo i adeiladu ffwrneisi trydanol fel rhan o’r cytundeb, yn ôl yr adroddiad.
Byddai hyn yn symleiddio’r broses o greu dur, gan hefyd geisio mynd i’r afael ag allyriadau carbon y cwmni.
Dywedodd arweinydd y blaid Lafur wrth ddarlledwyr ddydd Llun: "Mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y diwydiant dur. Rydym ni'n gweld hwn fel y dyfodol, nid y gorffennol. Mae gofyn felly i feddwl yn strategol am ein heconomi. Rydym ni eisiau ynni glân a fydd yn gallu gostwng ein costau egni."
Dywedodd ei fod yn hanfodol bod y costau hyn yn cael eu lleihau er mwyn "sicrhau dyfodol dur Prydain."
"Os ydym ni'n gallu gwireddu ein bwriad o gael ynni glân erbyn 2030, bydd angen mwy o ddur ac felly rydym ni eisiau i'r galw am ddur gynyddu.
"Rydym ni angen y trawsnewidiad i ddur gwyrdd ond mae'n rhaid i ni wneud hyn yn ofalus iawn, gan amddiffyn swyddi, sgiliau a'r hanes sydd gennym ni yma yn Ne Cymru," meddai.
"Felly rydym ni wedi bod yn cael trafodaethau cadarnhaol y bore 'ma am yr hyn dwi'n rhagweld bydd yn ddyfodol disglair iawn i ddur, ond gall hynny ond ddigwydd wrth feddwl yn strategol."