Protest o blaid Palesteina y tu allan i’r Senedd
Protest o blaid Palesteina y tu allan i’r Senedd
Cafodd protest o blaid Palesteina ei chynnal y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Roedd tua 1,000 o bobol yno yn dal arwyddion a fflagiau er mwyn dangos eu cefnogaeth i bobl y diriogaeth.
Fe wnaeth yr orymdaith ddechrau y tu allan i Neuadd y Ddinas gan ddod i ben yn y Bae.
Roedd tua 100,000 hefyd wedi cymryd rhan mewn protest yn Llundain ac roedd protestiadau hefyd yn Birmingham a Salford.
Roedd y protestwyr yng Nghaerdydd yn galw ar lywodraethau'r DU a Chymru i bwyso am gadoediad yn Gaza er mwyn rhoi cyfle i gymorth dyngarol gyrraedd y wlad.
Dywedodd Cyngor Moslemaidd Cymru eu bod nhw’n “galw am atal cosbi pobl Gaza ar y cyd a diwedd ar feddiannu Palesteina”.
Daw wedi i Israel ddatgan rhyfel yn dilyn ymosodiad gan Hamas ar y wlad bythefnos yn ôl a laddodd 1,400 o bobl.
Mae Llu Amddiffyn Israel (IDF) wedi dweud eu bod nhw'n "targedu terfysgwyr" yn Gaza ac maen nhw wedi cyhuddo Hamas o "ladd eu pobol eu hunain" wrth geisio saethu rocedi diffygiol at Israel.
Mae swyddogion Palesteinaidd yn dweud bod mwy na 4,000 o bobl wedi marw ers hynny o ganlyniad i fomio gan Israel.
‘Parhau i wthio’
Daw wrth i dryciau gyda chymorth dyngarol o’r Aifft symud dros y ffin i Gaza ddydd Sadwrn.
Mae cymorth dyngarol wedi bod yn araf yn cyrraedd wedi dyddiau o ddadlau gwleidyddol dros amodau ei ddarparu.
Roedd Israel wedi rhwystro cyflenwadau hanfodol rhag cyrraedd Gaza, wrth daro'n ôl am ymosodiad grŵp Hamas ar 7 Hydref a laddodd 1,300 o Israeliaid.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor James Cleverly fod y cymorth sy’n symud drwy groesfan Rafah yn mynd i gynnig “achubiaeth” i nifer o bobol yn Gaza.
Ond dywedodd fod yn rhaid sicrhau bod yna fynediad parhaol i’r cymorth.
“Ni all hyn fod yn ddigwyddiad unwaith ac am byth. Mae’r DU yn parhau i wthio am fynediad dyngarol i Gaza.”