Newyddion S4C

'Ma' nhw angen bod mewn teulu': Proses 'hir' i fabwysiadu plant yng Nghymru ond 'werth o'

22/10/2023
Rachel a'i phlant

“Mae mor bwysig bod plant yn gallu bod yn rhan o deulu cyn gynted â phosib.”

A hithau yn wythnos genedlaethol mabwysiadu mae mam wedi galw am gyflymu y broses yng Nghymru.

Mae Rachel, sydd o'r gogledd ond bellach yn byw gyda’i gwr John yn ne-orllewin Cymru, wedi mabwysiadu tri o blant dros y 10 mlynedd diwethaf.

Ac mae'n annog yn gryf unrhyw un sy'n ystyried mabwysiadu i wneud hynny fel rhan o ymgyrch Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) i ddod o hyd i rieni newydd.

Dywedodd Rachel, sydd wedi gofyn i beidio cael ei henwi’n llawn er mwyn gwarchod y plant, ei fod o "werth o ar ddiwedd y dydd".

“Unwaith mae’r plentyn ‘ma, dio’m yn peth scary dio’ ddim yn peth od – mae jyst bod yn deulu," meddai.

Serch hynny mae'n dweud fod y broses yn "gallu bod yn hir" ac wedi “arafu lot mwy” yn ystod ei chyfnod yn mabwysiadu plant.

Image
Rachel a John
Rachel a John

'Cyflymach'

Mae Rachel yn credu mai “diffyg cydlynu” ar draws awdurdodau lleol Cymru sydd wrth wraidd y broblem.

Mae mabwysiadu yn fater sydd wedi ei ddatganoli i Gymru ac mae’n ofynnol i awdurdodau lleol Cymru gynnal gwasanaeth mabwysiadu yn eu hardal.

Yn ôl Rachel fe ddylai Llywodraeth Cymru ddod o hyd i ffyrdd i gyflymu’r broses.

“’Nathon ni rhoi diddordeb yn y trydydd plentyn pan oedd y plentyn yn 18 mis oed, a ‘nath y plentyn ddim cyrraedd i byw gyda ni nes ‘odd yn dair mlwydd oed,” meddai.

“Felly mae hynna’n hir bod y plentyn wedi aros mewn teulu maeth i gael aros i fabwysiadu.

“Does 'na ddim fatha’ un ffordd o gneud dim byd yng Nghymru, felly mae pob local authority yn dilyn y ffordd maen nhw’n dilyn. Does dim fatha’ un system ar draws Cymru.  

“Dwi’n credu os fyse’ ‘na pobl yn edrych mewn i ‘neud un system ar gyfer mabwysiadu ar draws Cymru, dwi’n credu sa’ pethau’n mynd yn gyflymach.”

Image
Mabwysiadu plant


Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dull cyson ac amserol o osod plant i'w mabwysiadu yn cael ei weithredu ledled Cymru.

"Ers sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru naw mlynedd yn ôl, mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud i ddatblygu gwasanaethau i sicrhau cysondeb ar draws pob rhanbarth mabwysiadu ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol.

"Cafodd proses fabwysiadu dau gam ei gweithredu yng Nghymru yn 2020 sy'n golygu bod pob asiantaeth fabwysiadu yn recriwtio ac asesu mabwysiadwyr yn yr un ffordd - gan ddefnyddio'r un broses a chadw at yr un amserlenni.

"Yn ei gynhadledd flynyddol ddiweddar, lansiodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ei Bolisïau a Gweithdrefnau Cymru Gyfan sy'n sicrhau bod pob rhanbarth ac asiantaeth fabwysiadu yng Nghymru yn cofrestru i ddatblygu a gweinyddu gwasanaethau mewn ffordd debyg."

‘Dim trafod'

Mae Rachel yn awyddus i weld newidiadau i’r system er mwyn sicrhau dyfodol “llawn cariad” i blant sydd angen teulu. 

“Be’ maen nhw angen ydy cyfle,” meddai. 

“Os oes rhywun yn gallu rhoi cyfle iddyn nhw, dyna’r ‘di peth mwya’ ti gallu ‘neud ar gyfer plant ‘ma. Jyst cyfle maen nhw angen - cael bod mewn teulu.” 

Ond mae angen sawl gwelliant er mwyn uno teuluoedd heb oedi, meddai. 

Dywedodd Rachel: “Fi’n gwybod bod y llywodraeth wedi trio ‘neud y proses yn gyflymach ond er hynny, dydy o ddim.

“Mae angen mwy o arian tuag at hynna, ac mae angen mwy o hyfforddiant yn yr ysgolion i helpu athrawon deallt sefyllfa plant ‘ma, ble maen nhw’n dod a beth yw eu trawma.

“Mae ‘na lot fwy o waith mae’r llywodraeth yn gallu ei wneud er lles mabwysiadu a maethu hefyd yma yng Nghymru ond does ‘na ddim lot o trafod amdano fe’n digwydd.”

Image
Mabwysiadu plant

'Codi ymwybyddiaeth’

Yn 2012 penderfynodd Llywodraeth Cymru sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) er mwyn cyflenwi rhai gwasanaethau yn fwy effeithlon yn genedlaethol.

Maen nhw wedi cynnal ymgyrch dros yr wythnos ddiwethaf er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â mabwysiadu yng Nghymru. 

Ddydd Mercher, roedd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru wedi cwblhau eu taith gerdded 402 milltir flwyddyn o hyd, a hynny ar hyd Llwybr Arfordir Gogledd Cymru. 

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru: “Rydyn ni’n gobeithio, yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu eleni, y bydd pobl sy’n meddwl am fabwysiadu ledled Cymru yn gweld y wybodaeth sy’n cael ei rhannu yn ddefnyddiol ac yn ysbrydoledig. 

“Ein nod yw ateb llawer o'r cwestiynau a allai fod ganddynt am fabwysiadu grŵp o siblingiaid, plant ag anghenion mwy cymhleth neu blentyn hŷn. Mae ein gwasanaethau bob amser yn hapus i ddarparu mwy o wybodaeth.”

Image
Mabwysiadu plant

Mae Rachel yn annog unigolion i ystyried mabwysiadu. Cafodd Rachel a’i gwr John eu hysbrydoli i fabwysiadu wedi iddyn nhw gwrdd â rhieni mabwysiadol eraill, meddai. 

“Mae’r broses yn gallu bod yn anodd, mae’r proses gallu bod yn hir ond mae o werth o ar ddiwedd y dydd," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.