Sir Gâr: Dyn yn derbyn gorchymyn llys mewn cysylltiad ag achosi marwolaethau dau berson

Adam a Katie

Mae dyn 28 oed wedi derbyn gorchymyn llys mewn cysylltiad ag achosi marwolaethau dau berson yn Sir Gâr.

Bu Katie Worrell, 25 oed, ac Adam Muskett, 27 oed, farw o’u hanafiadau wedi gwrthdrawiad ar ddydd Iau, 13 Mehefin 2024.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Jaguar du a Ford Fiesta du ar yr A477 rhwng Llanddowror a Rhos-goch.

Ddydd Gwener dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod Alexander MacCallum, 28 oed, wedi derbyn gorchymyn llys mewn cysylltiad â dau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Mewn datganiad ym mis Mehefin 2024, dywedodd teulu Katie Worrell: “Roedd Katie yn ferch, chwaer, wyres, nith a chyfnither annwyl iawn. 

“Roedd hi'n byw bywyd i'r eithaf, yn hoff iawn o deithio ac wedi cyflawni cymaint mewn amser mor fyr.

“Graddiodd gyda gradd Meistr a gweithio'n galed. 

“Roedd hi'n caru ei ffrindiau ac Adam y tu hwnt i eiriau. 

“Roedd Katie yn garedig, yn ofalgar ac yn brydferth ac ni fydd ein bywydau byth yr un peth hebddi."

Image
Adam and Katie

Roedd teulu Adam hefyd wedi rhoi teyrnged i’w “mab, brawd, ŵyr a nai cariadus”. 

“Roedd yn caru bywyd, ei ffrindiau, Dinbych-y-pysgod, pêl-droed a Katie yn fawr iawn,” medden nhw.

“Sut mae symud ymlaen hebot ti, dy galon fawr garedig a dy wên ddigywilydd.

“Fe fyddwn ni’n torri ein calonnau ac yn llawn balchder am byth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.