Comisiynydd y Gymraeg am ymchwilio i'r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf

Comisiynydd y Gymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi lansio ymchwiliad i sut mae’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn cynnal ei gynllun iaith Gymraeg.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones ei bod yn awyddus i sicrhau bod y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn gweithredu ei ymrwymiadau iaith yn effeithiol.

Daw'r ymchwiliad ar ôl i'r Comisiynydd godi pryderon ym mis Hydref am hawliau carcharorion i siarad Cymraeg mewn carchardai.

Roedd staff yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam, sef carchar mwyaf Cymru, yn gorfodi siaradwyr Cymraeg i droi i'r Saesneg yn ôl cyn-garcharorion.

Wrth siarad ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Lerpwl, dywedodd y cyn-garcharorion eu bod wedi dod o dan bwysau i siarad Saesneg yno.

Dywedodd Carchar y Berwyn ar y pryd eu bod yn croesawu'r defnydd o'r iaith gan garcharorion, ymwelwyr a staff, a'u bod yn cymryd pob cwyn o ddifrif.

Mae'r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf wedi dweud y byddan nhw'n cydweithio'n agos gyda'r Comisiynydd wrth iddi gwblhau ei hymchwiliad.

'Angen gwelliannau sylweddol'

Mewn datganiad fore Gwener, dywedodd Efa Gruffudd Jones ei bod yn dymuno gweld "gwelliannau sylweddol".

"Fel sefydliad sy’n gweithredu cynllun iaith, ac yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’n ofynnol i'r Gwasanaeth Carchardai gyflwyno cynllun i’r Comisiynydd sy’n nodi sut y bydd yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn Gymraeg," meddai.

"Mae’r Gwasanaeth wedi cyflwyno cynllun diwygiedig yn ddiweddar, ac ynddo mae’n ymrwymo i wella ei ddarpariaeth i garcharorion ac i’r cyhoedd. 

"Mae’r ymrwymiadau hyn yn adeiladu ar waith blaenorol y Comisiynydd, gan gynnwys adroddiad a fu’n sail i’r cynllun blaenorol.

"Yn sgil pryderon a godwyd yn ddiweddar ynghylch gweithrediad y cynllun, ac yn dilyn ymweliad â Charchar y Berwyn yr wythnos hon, lle cefais gyfle i drafod y ddarpariaeth â staff a charcharorion, rwyf wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i’r modd y caiff y Gymraeg ei thrin ar draws y Gwasanaeth Carchardai." 

Ychwanegodd mai'r nod yw "sicrhau bod yr ymrwymiadau yn y cynllun yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn arwain at welliannau sylweddol".

"Fel y nodais yn ddiweddar, os nad oes gennyf sicrwydd neu hyder fel rheoleiddiwr fod sefydliadau yn cydymffurfio â’r gofynion statudol, byddaf yn ymchwilio i’r materion hynny ac yn cymryd camau pendant lle bo angen," meddai.

Bydd yn cyhoeddi canlyniadau’r ymchwiliad unwaith y bydd wedi ei gwblhau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf: "Rydym yn croesawu’r defnydd o’r iaith Gymraeg gan garcharorion, ymwelwyr a staff, ac yn cymryd pob cwyn am gyfyngiadau ar hawliau’r iaith Gymraeg o ddifrif.

"Byddwn yn cydweithio’n agos â Chomisiynydd y Gymraeg dros y misoedd nesaf wrth iddi gwblhau ei hymchwiliad."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.