Gwrtaith 20 miliwn o gywion ieir 'yn llygru' Afon Gwy, medd ymgyrchwyr

Afon Gwy

Clywodd llys fod yr afon Gwy "mewn cyflwr gwael iawn" oherwydd y maint o wrtaith cywion ieir sy'n cael ei wasgaru ar y tir o'i chwmpas. 

Penderfynodd barnwr yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ddydd Iau ganiatau cais gan ymgyrchwyr amgylcheddol i gynnal adolygiad barnwrol llawn i'r sefyllfa.

Gofynodd yr elusen gwrth-llygredd River Action am yr adolygiad, oherwydd bod nhw'n honni nad oedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gwneud digon i atal y llygredd.

Mae'r afon Gwy yn codi yng Nghanolbarth Cymru, ac yn llifo am 150 milltir, yn rhannol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, cyn ymuno a'r Hafren.

Ond mae hyd at 20 miliwn o gywion ieir yn cael eu magu o gwmpas ardal yr afon, a mae River Action yn dadlau fod eu gwrtaith, sy'n cael ei wasgaru gan nifer o reolwyr y tir, yn achosi lefelau uchel o ffosffed yn y dwr.

Ar ran yr elusen, dywedodd David Woolfe KC "nad oedd yna unrhyw ddadl" fod yr afon Gwy "mewn cyflwr gwael iawn."

Ond ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd, gwadodd eu bargyfreithiwr Charles Streeten nad oedden nhw'n cymryd camau yn erbyn llygredd o'r fath os oedd o'n mynd yn groes i ganllawiau statudol.

Penderfynodd y barnwr ganiatau cais yr elusen am adolygiad barnwrol, ar ddyddiad i'w bennu    

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.