BAFTA Cymru: Ffilm Y Sŵn yn ennill dwy wobr
Roedd Y Sŵn ymysg y prif enillwyr wrth gipio dwy wobr yn seremoni BAFTA Cymru nos Sul.
Derbyniodd y ffilm Gymraeg am frwydr gwleidyddol Gwynfor Evans i sefydlu S4C, wobrau Ffilm Nodwedd/Teledu, a Golygu: Ffuglen, a enillwyd gan Kevin Jones.
Rhoddwyd y wobr Cyflwynydd i Lisa Jên, sy’n ymuno â’r enillwyr tro cyntaf, ar gyfer Stori’r Iaith.
Cyflwynodd Rhuanedd Richards y wobr Cyfraniad Arbennig i un o enwogion y diwydiant, Hywel Gwynfryn.
Fe wnaeth Greenham a Save the Cinema hefyd ennill dwy wobr yr un, a roedd Taron Egerton a Rakie Ayola ymhlith enillwyr BAFTA Cymru am y tro cyntaf.
Enillodd Y Byd ar Bedwar: Cost Cwpan Y Byd Qatar y wobr Newyddion, Materion Cyfoes a Phynciol, ac fe enillodd Bjørn Bratberg y wobr Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen am ei waith ar y ffilm Gwledd/ The Feast.
Cafodd y gwobrau eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd, dan arweiniad y cyflwynydd teledu o Gymru, Alex Jones.
Mae Gwobrau BAFTA Cymru yn anrhydeddu rhagoriaeth ac yn dathlu talent ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.
Enillodd Greenham y wobr Cyfres Ffeithiol ac enillodd Rhys ap Rhobert y wobr Golygu: Ffeithiol am ei waith ar y gyfres.
Enillodd Save the Cinema ddwy wobr gyda Jo Thompson yn ennill y wobr Dylunio Gwisgoedd a Jonathan Houlding yn ennill y wobr Dylunio Cynhyrchiad.
Enillodd derbynnydd Gwobr Siân Phillips, sef Rakie Ayola, ei gwobr BAFTA Cymru gyntaf am Actores ar gyfer ei pherfformiad yn The Pact ac enillodd Taron Egerton ei Wobr BAFTA Cymru gyntaf am Actor yn Black Bird.
Yr enwebiadau a'r gwobrau i gyd
Actor
Graham Land Dal Y Mellt - Vox Pictures / S4c
Owain Arthur The Lord Of The Rings: The Rings Of Power - Amazon Studios / Amazon Prime Video
Rhys Ifans House Of The Dragon - Hbo / 1:26 Pictures / Bastard Sword / Grrm Productions / Sky Atlantic
Taron Egerton Black Bird – Apple Studios / Apple Tv+
Actores
Eiry Thomas Y Sŵn - Swnllyd
Katy Wix Big Boys - Roughcut Tv / Channel 4
Rakie Ayola The Pact - Little Door Productions / Bbc One Wales
Ruth Wilson His Dark Materials – Bad Wolf / Bbc Iplayer
Cymru Torri Drwodd
Emily Morus-Jones Diomysus: More Than Monogamy - Bbc Wales & Emily Morus-Jones Production / Bbc Three
Issa Farfour Wales This Week And Wales At Six - Itv Cymru Wales
Mared Jarman How This Blind Girl... – Boom Cymru / Bbc Two
Rhaglen Blant
Gwrach Y Rhibyn – Boom Cymru / S4c
Mabinogi-Ogi - Boom Cymru / S4c
Y Goleudy – Boom Cymru / S4c
Dylunio Gwisgoedd
Jo Thompson Save The Cinema - Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema
Sarah Young Willow - Lucasfilm Ltd. / Disney+
Siân Jenkins Dream Horse - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw Tv / Popara Films / Warner Bros.
Cyfarwyddwr: Ffeithiol
Chloe Fairweather Scouting For Girls: Fashion's Darkest Secret – The Guardian / Wonderhood Studios / Sky Studios / Sky Documentaries
Clare Sturges Charlie Mackesy: The Boy, The Mole, The Fox, The Horse And Me - Embankment Films / Apple Tv+ / Bbc Two
Dylan Wyn Richards Greenham - Tinopolis / S4c
Gruffydd Sion Rees Stori'r Iaith – Rondo Media / S4c
Cyfarwyddwr: Ffuglen
Isabella Eklöf Industry – Bad Wolf / Bbc Iplayer
Lee Haven Jones Y Sŵn - Swnllyd
Richard Stoddard Brassic - Calamity Films / Sky Max
Sally El Hosaini The Swimmers – Working Title / Netflix
Golygu: Ffeithiol
Gwyn Jones Italia 90 - Four Weeks That Changed The World - Blast! Films / Sky Documentaries
John Gillanders & Dafydd Hunt Stori'r Iaith - Rondo Media / S4c
Rhys Ap Rhobert Greenham - Tinopolis / S4c
Sion Aaron Chris A'r Afal Mawr – Cwmni Da / S4c
Golygu: Ffuglen
Dafydd Hunt Yr Amgueddfa – Boom Cymru / S4c
Johannes Hubrich The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max
Kevin Jones Y Sŵn - Swnllyd
Mali Evans Y Golau / The Light In The Hall - Triongl / Duchess Street / S4c
Rhaglen Adloniant
Chris A'r Afal Mawr - Cwmni Da / S4c
Gogglebocs Cymru - Cwmni Da / Chwarel / S4c
Luke Evans: Showtime! – Afanti / Bbc Two
Stereophonics Live In Cardiff: We'll Keep A Welcome – Bbc Studios / Steroephonics / Aldgate Pictures / Bbc One
Cyfres Ffeithiol
A Special School - Slam Media / Bbc One Wales
Greenham – Tinopolis / S4c
Stori'r Iaith - Rondo Media / S4c
The Disappearance Of April Jones - Blast! Films / Channel 4
Ffilm Nodwedd/Deledu
Donna - Truth Department / Films De Force Majeure
Five Dates - Wales Interactive / Good Gate Media
Y Sŵn - Swnllyd
Newyddion, Materion Cyfoes A Phynciol
Bbc Wales Investigates; Welsh Rugby Under The Spotlight - Bbc Cymru Wales / Bbc One Wales
County Lines - Itv Cymru Wales / S4c
Llofruddiaeth Logan Mwangi - Multistory Media Cymru / Itv Studios / S4c
Y Byd Ar Bedwar: Cost Cwpan Y Byd Qatar - Itv Cymru Wales / S4c
Ffotograffiaeth Ffeithiol
Christian Cargill Heart Valley - The New Yorker / Dalmatian Films / Bbc Two Wales
Paul Joseph Davies Greenham - Tinopolis / S4c
Sam Jordan-Richardson Our Lives - Born Deaf, Raised Hearing – On Par Productions / Bbc One
Ffotograffiaeth A Goleuo: Ffuglen
Bjørn Bratberg The Feast / Gwledd - Sgrech
Bryan Gavigan Y Sŵn - Swnllyd
David Johnson His Dark Materials – Bad Wold /Bbc Iplayer
Sergio Delgado The Pact – Little Door Productions / Bbc One Wales
Cyflwynydd
Chris Roberts Chris A'r Afal Mawr – Cwmni Da / S4c
Emma Walford & Trystan Ellis-Morris Prosiect Pum Mil – Boom Cymru / S4c
Lisa Jên Stori'r Laith – Rondo Media / S4c
Sean Fletcher Stori'r Iaith – Rondo Media / S4c
Dylunio Cynhyrchiad
Dafydd Shurmer Y Sŵn - Swnllyd
Daniel Taylor Dream Horse – Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw Tv / Popara Films / Warner Bros.
Joel Collins His Dark Materials – Bad Wolf / Bbc Iplayer
Jonathan Houlding Save The Cinema – Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema
Ffilm Fer
Cardiff - The Festivals Company
Heart Valley - The New Yorker / Dalmatian Films / Bbc Two Wales
Inner Polar Bear - Gritty Realism Productions
Nant - Strike Pictures – Channel 4 Streaming
Rhaglen Ddogfen Sengl
Blood, Sweat And Cheer - Little Bird Films / Bbc Three
Brothers In Dance : Anthony And Kel Matsena - Bbc Studios / Bbc Two Wales
Jason And Clara - In Memory Of Maudie - Itv Cymru Wales / Itv1
Spike Milligan: The Unseen Archive – Yeti / Sky Arts
Sain
Sound Team Industry – Bad Wolf / Bbc Iplayer
Sound Team The Feast / Gwledd - Sgrech
Sound Team The Rising – Sky Studios / De Mensen / Sky Max
Drama Deledu
Casualty - Bbc Studios / Bbc On
The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max
Persona - Cwmni Da / S4c
Awdur
Joe Barton The Lazarus Project - Urban Myth Films / Sky Max
Pete Mctighe The Pact - Little Door Productions / Bbc One
Roger Williams Y Sŵn - Swnllyd
Russell T Davies Nolly – Quay Street Productions / Itvx