'100% ffug': Noel Mooney yn gwadu adroddiadau am ddyfodol Rob Page
Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney wedi gwadu adroddiadau yn y wasg ei fod wedi ystyried Roy Keane fel dewis posib yn swydd hyfforddwr Cymru.
Mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Noel Mooney fod yr adroddiadau ym mhapur y Sun ddydd Sadwrn yn anwiredd.
“100% na! Roedd hyn yn y Sun… maen nhw wedi eu gwneud i fyny gan rywun," meddai.
"Maen nhw yn 100% yn ffug. Nid yw hyd yn oed yn perthyn i realiti.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NoelMooney13/status/1713228881065283795?s=20
Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Sadwrn dywedodd Rob Page ei fod yn deall rhwystredigaeth cefnogwyr ond bod “rhaid i ni anwybyddu’r holl sŵn” cyn i Gymru herio Croatia nos Sul yn rowndiau rhagbrofol Euro 24 yn yr Almaen.
Ychwanegodd ei fod wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd a bod ganddo gynllun hirdymor i ddechrau cyflwyno chwaraewyr ifanc newydd i’r grŵp.
Mae Noel Mooney wedi cadarnhau y bydd y swydd yn cael ei adolygu os nad ydy Cymru yn wynebu’r gemau ail gyfle ar gyfer Ewro 2024.
Dywedodd ddydd Mercher y byddai “adolygiad” yn cael ei gynnal ar safle Page ar ôl gemau Armenia a Thwrci fis nesaf pan fydd “popeth wedi ei setlo”.
Mae Cymru yn bedwerydd yng Ngrŵp D ar hyn o bryd ac angen ennill eu tair gêm olaf yn erbyn Croatia, Armenia a Thwrci i sicrhau siawns gwirioneddol o gyrraedd yr Almaen.