
Oedi cynllun casglu cofnodion iechyd cleifion yn Lloegr
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd oedi o ddeufis cyn cyflwyno newid yn y drefn o gasglu cofnodion cleifion gan feddygon teulu yn ganolog yn Lloegr.
Roedd disgwyl i wasanaeth iechyd Lloegr lansio system newydd NHS Digital ar 1 Gorffennaf, ond mae bellach wedi symud i 1 Medi.
Roedd rhai meddygon yn Lloegr yn galw am oedi’r dyddiad lansio er mwyn caniatáu i gleifion ddysgu mwy am y system.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu hefyd wedi lleisio pryderon am newidiadau i'r drefn bresennol yn Lloegr.
Ond, yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd yr aelod seneddol Ceidwadol Jo Churchill y byddai’r rhaglen yn “achub bywydau”.

Yn y cyfamser mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio mai dim ond yn Lloegr yn unig y bydd y newidiadau yn dod i rym.
Dywedodd Eluned Morgan A.S.: “I fod yn hollol glir, dim ond yn Lloegr y mae'r newid yr adroddir arno yn y cyfryngau i’r ffordd y mae cofnodion cleifion yn cael eu casglu yn digwydd. Nid oes gan NHS Digital unrhyw awdurdod na chyfrifoldeb yng Nghymru.”
Er hynny, bydd angen i drigolion Cymru sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr yn y gorffennol optio allan os nad ydynt am i'w data gael eu cynnwys.
“Mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi ymrwymo i wella sut rydym yn defnyddio data iechyd a gofal, er enghraifft, i alluogi darganfod problemau iechyd unigolion yn gynt, cefnogi gwell cynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal ac i ddarparu platfform ar gyfer ymchwil iechyd,” ychwanegodd Ms Morgan.
“Mae mynediad at ddata ar raddfa fawr yn hanfodol os ydym am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial neu unrhyw dechnoleg dadansoddeg ddigidol newydd.
“Mae cyfrinachedd cofnodion cleifion a diogelwch cyffredinol data personol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.”