Newyddion S4C

Malcs a'i Farn: 'Braf gweld Mullin ar gyrion y garfan'

11/10/2023

Malcs a'i Farn: 'Braf gweld Mullin ar gyrion y garfan'

Bydd tîm pêl-droed Cymru yn chwarae yn y gogledd am y tro cyntaf ers pedair blynedd wrth iddyn nhw groesawu Gibraltar i’r Cae Ras nos Fercher.

O anaf Aaron Ramsey i alwad Paul Mullin i restr wrth law y garfan, dyma farn Malcolm Allen ar y sefyllfa mae Cymru yn ei wynebu cyn y gêm gyfeillgar yn Wrecsam, ar gyfer ei golofn, Malcs a'i Farn.

'Momentwm'

“‘Da ni mewn lot gwell sefyllfa nag oeddan ni adag yma mis dwytha’. Tri phwynt oddi wrth y brig y grŵp rhagbrofol Euro 2024 a gêm yn erbyn Croatia i ddod nos Sul wrth gwrs - ond cyn hynny mae Gibraltar.

“Fydd ysbryd y garfan yn gryf ar ôl curo Latfia fis diwethaf. Dw i’n siŵr doeddan nhw ddim eisiau brêc ar ôl buddugoliaeth dda, felly fyddan nhw’n edrych ymlaen at y gemau yma a thrio cario ymlaen efo momentwm da ni ‘di adeiladau ym mis Medi. Mi fydd pawb yn hapus ac yn barod i fynd.

Image
Mae Aaron Ramsey yn methu allan oherwydd anaf i'w ben-glin (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Mae Aaron Ramsey yn absennol oherwydd anaf i'w ben-glin
(Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

“Mae Aaron Ramsey allan am gyfnod hir efo anaf, sydd yn ergyd mawr i’r tîm wrth gwrs. Ydi hynny yn mynd i stopio ni rhag qualifyio? Hmmm...ella wir. Mae Aaron a Brennan Johnson allan y tro hwn, ond y newyddion da ydi bod Kieffer Moore a Dan James yn ôl ac maen nhw’n match-winners i Gymru, yn gallu creu rhywbeth mewn eiliad a throi gêm ar ei phen.

"Ramsey ydi’r capten wrth gwrs ac mae’n golled fawr, ond mae'n rhaid i bobl arall gymryd cyfrifoldeb rŵan. Pobol fel Ben Davies, sydd falch iawn i fod yn gapten.”

Dychwelyd i’r gogledd

“Am gêm yn Wrecsam – y gyntaf yn y gogledd ers pedair blynedd a hanner ac mae hynny’n grêt i weld. Fydd y lle’n bownsio, fel ma’i di bod ar y Cae Ras ers i Rob McElhenney a Ryan Reynolds gymryd drosodd yna, felly dwi’n edrych i’r gêm yn anferthol.

“Mae cefnogwyr y gogledd yn haeddu cael gêm i fyny fan hyn. Pan oni’n hogyn bach, dim ond yn y Cae Ras oeddwn i’n dod i wylio Cymru felly grêt cael y teimlad pan ti’n cyrraedd y cae nos Fercher fod ‘na gêm ryngwladol yn cael ei chwarae yno.”

Paul Mullin yn ‘cynnig rhywbeth gwahanol’

Image
Ymosodwr Wrecsam, Paul Mullin
Ymososdwr Wrecsam, Paul Mullin

“Mae’n grêt i weld Paul Mullin ar restr wrth law ar gyfer y garfan. Mae o’n cynnig rhywbeth gwahanol ar y cae, mae o’n rhedeg y sianeli ac mi fedrith o greu rhywbeth mewn eiliad a rhoi’r bel yn gefn y rhwyd. Fyswn i wrth fy modd yn ei weld yn cael ei alw i fyny i’r garfan go iawn.

“Peidiwch â deud fod y gêm yma ddim yn un bwysig i rai chwaraewyr sy’n debygol o gael eu capiau gyntaf dros Gymru – hogiau fel Owen Beck, Charlie Savage, Liam Colwill, Regan Poole - wnawn nhw byth anghofio’r noson yna, a chwaraewyr ifanc fel Luke Harris sydd eisiau creu argraff ym mhen Rob Page.

“Mi fydd hwn yn gêm arbrofol, does dim cwestiwn am hynny. Dwi yn gweld tîm hollol wahanol yn chwarae, efallai efo pedwar yn y cefn – er fyddwn ni’n debygol o fynd yn ôl i bump yn erbyn Croatia.”

Y tîm fyswn i’n ei ddewis

“I fi, fyswn i’n cychwyn efo Adam Davies yn y gôl, ac yn y pedwar yn yr amddiffyn, Owen Beck, Regan Poole, Tom Lockyer a Wes Burns. Mae Tom yn gapten ar Luton Town yn yr Uwch Gynghrair bellach ac mae’n braf iawn gweld o’n dechrau mor dda ar ôl ei salwch y tymor diwethaf.

“Yng nghanol y cae, fyswn i’n rhoi Dylan Levitt syth yn ôl i mewn, efo Josh Sheehan a Nathan Broadhead, efo Luke Harris ar y chwith a David Brooks ar y dde. Mae Kieffer Moore angen munudau ar y cae felly fyswn i’n rhoi awr iddo yn erbyn Gibraltar, ella cael gôl fach i dyfu ei hyder cyn y gêm fawr yn erbyn Croatia.

“‘Da ni’n 33 ar restr detholion y byd, maen nhw’n rhif 198 – does 'na ddim rheswm allwn ni ddim ennill y gêm yma ac ennill yn reit hawdd. Felly 'swn i’n hapus ennill o ddwy neu dair, ond y peth mawr ydi cadw’r ysbryd a’r momentwm i fynd a ni’n syth mewn i’r gêm Croatia yng Nghaerdydd.”

Bydd Cymru v Gibraltar yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C am 19.20 nos Fercher.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.