
Nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yn sefyllfa 'argyfyngus' medd elusen

Nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yn sefyllfa 'argyfyngus' medd elusen
Mae mwy o deuluoedd yn wynebu dyledion ac yn methu â phrynu nwyddau sylfaenol, yn ôl adroddiad newydd gan elusen plant.
Yn ôl elusen Plant yng Nghymru mae hi’n “gwbl annerbyniol” fod bron i 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi gan ddweud fod y sefyllfa bellach yn “argyfyngus”.
Yn ôl adroddiad ar dlodi, fe ddywedodd 95% o bobl a gafodd eu holi bod eu sefyllfa wedi dirywio yn y flwyddyn ddiwethaf ac roedd 85% yn credu fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu oherwydd tlodi.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod wedi “hymrywmo i waredu tlodi plant” ond fod nifer o’r ffyrdd i wneud hynny yn nwylo Llywodraeth Prydain.
Dyma'r seithfed adroddiad ar dlodi gan elusen Plant yng Nghymru gyda’r Prif Weithredwr yn dweud mai dyma’r flwyddyn sydd â’r canlyniadau mwyaf syfrdanol.
“Mae’r darlun yn bryderus”, meddai Hugh Russell.
“Mae’r adroddiad yn clywed gan bobl sy’n dweud hynny.”
“Yr hyn da ni’n poeni am yw os na fydd na mwy o fuddsoddiad i wasanaethau hanfodol... wel da ni ar y dibyn go iawn.
“A da ni’n gweld awdurdodau lleol a gwasanaethau hanfodol yn delio efo effaith hyn oll ac mae tlodi mor styfnig”.
Yn ôl yr adroddiad, mae ansicrwydd bwyd, dyledion a sgil effeithiau’r argyfwng costau byw ymhlith y pryderon mwyaf, a nifer bellach yn troi at fanciau bwyd.

Ym Manc Bwyd Penmaenmawr yn sir Conwy, mae’r silffoedd yn gwagio’n sydyn a mwy o deuluoedd yn gwneud defnydd o'r gwasanaeth nag erioed o blaen.
“Mae’n rhaid i rywbeth newid”, meddai Jason Edwards o’r banc bwyd.
“Ma’n rhaid... efo’r ffordd mae pethau yn mynd a’r holl beth efo demoneisio’r bobl sydd ar waelod yr ystol”.
Yn ôl Mr Edwards, mae nifer sy’n dod ato yn dweud fod y system fudd-daliadau hefyd yn anodd i'w defnyddio.
Mae’n gwyn sydd wedi ei thanlinellu yn yr adroddiad gyda chanfyddiadau’n dangos nad yw nifer yn hawlio budd-daliadau er eu bod nhw’n gymwys oherwydd bod y system yn rhy gymhleth.
Mae'r elusen yn gwerthfawrogi ymdrechion ysgolion sydd ar y rheng flaen wrth fynd i'r afael â thlodi, a pholisi newydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gynnig prydau cinio ysgol am ddim i ddisgyblion.
Yn ysgol Morfa Rhianedd yn Llandudno, mae’r pennaeth yn dweud fod y cynllun yn sicrhau fod dysgwyr yn derbyn bwyd maethlon ac yn barod i ddysgu.

Wrth geisio mynd i'r afael â thlodi a helpu teuluoedd, mae’r ysgol bellach yn cynnig cynllun i gyfnewid dillad ysgol a llacio ar eu polisi brandio wrth geisio arbed costau wrth i ymchwil ddangos y gallai gwisg ysgo newydd i blentyn gostio hyd at £183.
“Da ni fath â bwrdd llywodraethu wedi penderfynu bod 'na ddim gwthio ar y brandio gwisgoedd ysgol a hynny wedi lleihau 'chydig ar y pwysau a chostau sydd ar deuluoedd”, meddai'r pennaeth Gethin Môn Jones.
“I ni, lles y plant ydi’r peth pwysicaf a’u profiadau ac ymweliadau preswyl.
“Mi yda ni wedi gallu, yn y gorffennol, cyfrannu at yr ymweliadau a’r baich ariannol a dwi’n gobeithio parhau ond wrth i gyllidebau grebachu, mae hynny yn fwy o her”.
Mae modd rhannu Sir Conwy yn ddwy, yr ardaloedd poblog ar hyd y glannau a’r ardaloedd gwledig tu hwnt i’r dyffryn.
Yn ôl adroddiad Plant yng Nghymru, mae tlodi gwledig hefyd wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r Cynghorydd dros ward Uwchaled Gwennol Ellis yn un sydd wedi sefydlu banc bwyd gwledig cyntaf y sir.
“Dwi’n teimlo yng nghefn gwlad fod tlodi yn cael ei guddio yn fwy, dio ddim mor amlwg ac yn fwy o galedi.
“I fynd i siopau mewn tref mae opsiwn o fynd i’r archfarchnadoedd rhatach wel yng nghefn gwlad mae’n ddrud i fyw yma”.
Mae’r adroddiad hefyd yn tystio bod trafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy yn ei gwneud hi’n anoddach i bobl sy’n byw mewn mannau gwledig.
Wrth ymateb i'r pryderon, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi “ymrwymo i waredu tlodi plant a’i fod yn flaenoriaeth.
“Mae mwy na 3,000 o blant, pobl ifanc a theuluoedd wedi ymgysylltu gyda datblygiad strategaeth tlodi plant.
“Er hyn mae nifer o’r ffyrdd i waredu tlodi yn gorwedd yn San Steffan”, meddai'r datganiad.
Yn ôl Llywodraeth y DU, mae’r system fudd-daliadau yn gadarn ac ar gael ar y “ffôn, ar-lein neu wyneb yn wyneb.
“Mae bron i ddwy filiwn yn llai o bobl drwy Brydain yn byw mewn tlodi rŵan na fu yn 2010.
“Rydym yn deall bod pobl yn ei gweld hi’n anodd a dyma pam rydym wedi darparu lefel uchaf erioed o gefnogaeth ariannol cyfwerth â thua £3,3000 fesul cartref a chodi budd-daliadau o dros 10%.”