Newyddion S4C

Pa mor obeithiol yw'r Wal Goch cyn Euro 2020?

Newyddion S4C 06/06/2021

Pa mor obeithiol yw'r Wal Goch cyn Euro 2020?

Gyda Chymru'n paratoi i ddechrau eu hymgyrch Euro 2020, Newyddion S4C sydd wedi bod yn sgwrsio gydag aelodau o'r Wal Goch am eu gobeithion am y bencampwriaeth.

Gêm ddi-sgôr oedd hi i Gymru yn erbyn Albania ddydd Sadwrn yn eu gêm gyfeillgar olaf cyn y bencampwriaeth, ond mae gobeithion y cefnogwyr yn parhau'n uchel. 

Bydd Cymru yn herio'r Swistir (12 Mehefin) a Thwrci (16 Mehefin) yn Baku, a’r Eidal (20 Mehefin) yn Rhufain yng ngrwpiau’r twrnament, gyda charfan Robert Page wedi ei chyhoeddi wythnos diwethaf.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.