Cymru 0 – 0 Albania: Gêm siomedig cyn Euro 2020
Cymru 0 – 0 Albania: Gêm siomedig cyn Euro 2020
Roedd hi’n gêm ddi-sgôr i Gymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Albania nos Sadwrn.
Er i’r Wal Goch gael dychwelyd am y tro cyntaf ers blwyddyn a hanner, roedd hi’n ddiwedd siomedig i’r gemau cyfeillgar cyn i Gymru ddechrau eu hymgyrch Euro 2020 yn erbyn Swistir ymhen wythnos.
Yn dilyn hanner cyntaf di-fflach, fe gododd momentwm y gêm wedi'r egwyl, gyda dau ergydiad cryf am y gôl gan Neco Williams a Kieffer Moore yn fuan ar ôl i Gareth Bale gyrraedd y cae.
Ond nid oedd hyn yn ddigon i sicrhau gôl i Gymru.
Er y byddai’r garfan yn sicr wedi hoffi gweld canlyniad mwy cadarnhaol, bydd eu perfformiad yn yr ail hanner yn sicr o fod wedi codi hyder y crysau cochion a’r cefnogwyr cyn anelu am Baku.
Mae Cymru erbyn hyn wedi ymestyn eu rhediad diguro gartref i 13 gêm (ennill 10 a thair yn gyfartal), gyda’u colled ddiwethaf gartref nôl ym mis Tachwedd 2018 yn erbyn Denmarc.
Mae Cymru hefyd wedi cadw dalen lân yn saith allan o wyth o'u gemau cartref rhyngwladol diwethaf, gan ildio un gôl yn unig yn y rhediad yn ystod eu buddugoliaeth yn erbyn y Ffindir fis Tachwedd.
Er gwaethaf y canlyniad, bydd y gêm hon yn cael ei chofio fel gêm y Wal Goch, gyda gobeithion Cymru am Euro 2020 yn parhau’n uchel.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans
Fideo: Sgorio, S4C