'Mae'n ofnadwy o sialens': Pam fod gymaint o bobl ifanc yn gadael cefn gwlad Cymru?
'Mae'n ofnadwy o sialens': Pam fod gymaint o bobl ifanc yn gadael cefn gwlad Cymru?
Diffyg tai a chyfleoedd gwaith yw’r rhai o’r prif resymau pam fod gymaint o bobl ifanc yn dal i adael cefn gwlad Cymru.
Dyna gasgliad cychwynnol un o bwyllgorau San Steffan sydd wrthi’n edrych ar y mater, ac sy’n dweud bod y “newid sylweddol i’r ddemograffeg yn peri gofid”.
Fe ddangosodd cyfrifiad 2021 fod saith sir yng Nghymru, nifer yn rhai gwledig, wedi profi gostyngiad yn eu poblogaeth er bod cynnydd yn genedlaethol.
Mae dadboblogi ar ei waetha o fewn siroedd lle mae’r iaith ar ei chryfaf gyda Cheredigion, Gwynedd, Môn a Chonwy oll wedi profi gostyngiad dros y ddeng mlynedd nesaf.
Yng nghlwb Ffermwyr Ifanc Penmynydd ar Ynys Môn mae’n bwnc syn tanio’r drafodaeth.
Mae Lois Angharad (uchod) yn 24 ac yn feddyg yn lleol ac yn dweud nad ydi symud nôl wedi cyfnod o astudio yn hawdd i bawb.
“Mi oedd yn rhaid imi fynd i Gaerdydd i astudio fy nghwrs meddygaeth,” meddai.
“Rŵan mae prifysgol Bangor efo cwrs eu hunain sy’n anhygoel ac yn rhywbeth swni wedi bod wrth fy modd yn gwneud”.
“Ar y llaw arall, o ran fy ffrindiau mae’n ofnadwy o sialens cael swyddi yn lleol."
Meddwl am y dyfodol mae Elain Haf sy’n 16 hefyd.
“Dwi’n caru Cymru ond mae 'na siawns dwi am symud i ffwrdd".
“Mae hynny oherwydd i fi... jest be dwi isho neud... mae’r opportunities yna allan o gefn gwlad fel fama”.
‘Anodd’
Mae Iwan Roberts sy’dd yn wreiddiol o Ddolgellau ond bellach yn berchen siop goffi yn dweud y gallai fod yn heriol denu pobol yn ôl.
“Doni’n yn teimlo fel bod 'na diwydiant imi fynd mewn i yn Nolgellau”, meddai.
“Onisho symud i’r dref fawr, mynd i gigs, gweld mwy o bethau a dim jest aros i Sesiwn Fawr ddod unwaith y flwyddyn!”
Wrth drafod y gobaith o ddod adref, dywedodd fod pris tai yn ffactor dros aros ym Manceinion.
“Mae’n reit anodd symud nôl, da ni wedi prynu ym Manceinion ac mae hynny yn ddrud, ond dwi’n meddwl fod o’n fwy drud yn Nolgellau ar y funud,” meddai.
‘Peri gofid’
Ers y chwyldro diwydiannol mae ‘na duedd amlwg o bobl ifanc yn gadael ardaloedd gwledig wrth chwilio am waith.
Ond er gwaetha datblygiadau technolegol sy’n gwneud hi’n haws i weithio o bell, mae nifer o siroedd Cymreig cefn gwlad yn parhau i weld gostyngiad.
Yng Ngheredigion fe ostyngodd y boblogaeth 5.8% rhwng 2011-2021, dyma'r sir fuodd a’r trydydd gostyngiad mwyaf drwy Gymru a Lloegr.
Mi oedd y ffigwr yn fwy amlwg fyth ymysg bobl ifanc rhwng 15-19 oed, gostyngiad o 28%.
Mae Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan wedi bod wrthi’n casglu tystiolaeth am pam fod pobl ifanc yn gadael cefn gwlad Cymru, ac mae rhai themâu amlwg yn dod i’r fei.
Yn ôl un o aelodau’r pwyllgor Ben Lake A.S, mae diffyg tai, cyfleoedd gwaith a thrafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy yn gyrru pobl o gefn gwlad i’r dinasoedd.
“Mae’n rhaid inni edrych ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynllunio a’u gweithredu,” meddai.
“Mi yda ni’n gweld fel pwyllgor tystiolaeth sy’n awgrymu bod y newid sylweddol yma yn peri gofid i ba mor hyfyw yw cymunedau ni.”
Ychwanegodd y bydd angen i Lywodraethau Cymru a Phrydain weithio’n agosach i fynd i’r afael a’r her.
‘Cymunedau’
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl ifanc gynllunio eu dyfodol.
“Rydym yn mynd i’r afael a’r nifer uchel o ail gartrefi sy’n gallu effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau,” meddai llefarydd.
“Rydym wedi ymrwymo i godi 20,000 o dai rhent ychwanegol yn y maes cymdeithasol o fewn y tymor seneddol nesaf.”
Mi fydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan rŵan yn ystyried y dystiolaeth sydd wedi ei chasglu cyn cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru a Phrydain.