Newyddion S4C

'Mae fy mywyd wedi'i gymryd oddi wrtha i' - menyw wedi ei pharlysu wrth gael bath

ITV Cymru 18/09/2023
Jessica Ennis ITV

Mae dynes o Gaerffili yn dweud fod ei 'bywyd wedi ei gymryd oddi wrthi' ar ôl cael ei pharlysu o'i chanol i lawr, wrth gael bath.

Bu'n rhaid i Jessica Ennis gael ei thynnu allan o'r bath gan ei mam a'i chludo i'r ysbyty gan barafeddygon ar fore 21 Mehefin 2023.

Dywedodd y fenyw 30 oed wrth ei dwy ferch ychydig funudau ynghynt y byddai'n cael bath cyn mynd â nhw i'r feithrinfa.

Cafodd Ms Ennis ddiagnosis o Anhwylder Niwrolegol Swyddogaethol (FND), cyflwr sy'n achosi problemau ar sut mae'r ymennydd yn derbyn ac yn anfon gwybodaeth i'r corff.

Image
Jessica Ennis - ITV
Jessica a'i gŵr, Conan (Llun: Media Wales)

Gall FND achosi gwendidau difrifol yn y breichiau a choesau, yn ogystal â ffitiau.

Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Anhwylderau Niwrolegol a Strôc, bydd tua 4-12 o bobl ym mhob 100,000 yn cael diagnosis FND.

"Ro'n i'n teimlo'n hollol numb pan wnaethon nhw ddweud wrthyf i - fel petai fy mywyd i wedi cael ei gymryd oddi wrtha i," meddai Mrs Ennis am ddarganfod am ei diagnosis.

Dywedodd Jessica, sydd bellach wedi'i chyfyngu i wely yn Ysbyty Ystrad Mynach, ei bod bellach yn dioddef o leiaf dau ffit y dydd a bod meddygon yn dweud y gallai dreulio gweddill ei bywyd mewn cadair olwyn.

Mae'n dweud ei fod wedi dechrau teimlo'n sâl fis Awst y llynedd gyda phoen 'nad oedd modd ei hesbonio'.

Image
Jessica Ennis ITV
Jessica Ennis gyda'i gŵr, Conan, a'u dwy ferch, Cassidy a Savannah. (Llun: Media Wales)

"Wedyn ym mis Tachwedd dros nos, ro'n i wedi mynd yn ddall yn fy llygad chwith ac roedd y meddygon wedi rhoi diagnosis o niwritis optig. Fe wnes i ddechrau addasu fy mywyd gyda hynny," meddai Mrs Ennis. 

"Fe wnes i ddechrau cael meigryn erchyll, roedd fy nghoesau a’m brechiau’n teimlo'n drwm iawn - bron yn rhy drwm i'w symud.

"Ces i amryw brofion, ond doedd dim byd yn ymddangos. Yna, ces wybod bod gen i ffibromyalgia ac fe wnaeth fy mywyd parhau fel hyn am chwe mis arall."

Roedd Ms Ennis wedi troi yn 30 ychydig ddyddiau cyn cael ei pharlysu, gan ddweud ei bod hi wedi bod i fyny drwy'r nos.

Y bore wedyn, dywedodd wrth ei dwy ferch y byddai'n cael bath am 10 munud.

"Am 7.10am, es i mewn i'r bath ac erbyn 7.20am ro'n i wedi fy mharlysu o'r wasg i lawr. Do’n i ddim yn gallu symud fy nghoesau o gwbl," meddai.

"Roedd yn frawychus. Fe wnes i alw ar fy mam, a ddaeth i lusgo mi allan o'r bath cyn i ambiwlans gyrraedd atom. Dyna'r tro olaf i mi weld fy nghartref fy hun."

Image
Jessica Ennis ITV
Jessica gyda'i gŵr, ​ei dwy ferch a'i llysfab. (Llun: Media Wales)

Dywedodd Ms Ennis fod ei symptomau wedi gwaethygu ers hynny a'i bod hi bellach gydag atal dweud, sbasmau yn ei braich dde ac nid yw'n gallu bwydo ei hun oherwydd bod ei dwylo'n crynu.

Fodd bynnag, dywedodd ei bod wedi cael ei "syfrdanu" gan gefnogaeth y rhai sydd wedi ei helpu i godi arian i addasu ei chartref mewn pryd i'w rhyddhau o'r ysbyty. Hyd yn hyn, mae tudalen GoFundMe wedi llwyddo i godi dros £1,100.

Ychwanegodd: "Allaf i ddim diolch i bawb ddigon am yr hyn maen nhw wedi'i wneud i mi godi'r arian yna.

"Alla i ddim meddwl am y peth heb grïo. Bydd hyn fy helpu i gael lifft cadair olwyn, ystafell wlyb, ac ystafell wely i lawr y grisiau er mwyn imi allu bod yn ôl gyda fy mhlant a’m gŵr."

Ychwanegodd Ms Ennis mai'r "unig beth" sy'n ei chadw i fynd yw'r angen i gyrraedd adref at ei theulu.

Dywedodd: "Dweud ffarwél wrthyn nhw ar ôl iddyn nhw ymweld yw'r peth anoddaf am y sefyllfa - llawer anoddach na derbyn mae'n debyg na fydda i byth yn cerdded eto."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.