Buddugoliaeth hanesyddol i Ffiji yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd
17/09/2023
Mae Ffiji wedi curo Awstralia am y trydydd tro yn unig yn ei hanes, mewn gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd brynhawn dydd Sul.
Gyda sgôr o 22-15 dyma’r tro cyntaf i Ffiji guro Awstralia ers 69 mlynedd.
Mae Cymru yn yr un grŵp a Ffiji, Awstralia, Portiwgal a Georgia.
Yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Ffiji a Portiwgal mae gan Gymru 10 o bwyntiau ac ar frig y tabl grŵp C, gyda Ffiji yn ail gyda chwech o bwyntiau.
Fe fydd Cymru yn wynebu Awstralia ar ddydd Sul, 24 Medi gyda’r gobaith am drydedd buddugoliaeth yn y bencampwriaeth.
Llun: Undeb Rygbi Ffiji