Rhybudd melyn am stormydd i'r canolbarth a'r de ddydd Sul
17/09/2023
Mae rhybudd melyn am stormydd a chawodydd trymion mewn grym ar draws rhannau helaeth o ganolbarth a de Cymru ddydd Sul.
Mae'r rhubudd mewn grym o 7:00 tan 18:00.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod llifogydd hefyd yn bosib mewn mannau yn sgil cyfnodau o hyd at 50-70mm o law mewn rhai oriau.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn annog unigolion i fod yn wyliadwrus wrth deithio, ac fe all y stormydd achosi oedi i drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae posibilrwydd y gallai rhai ffyrdd gael eu cau hefyd oherwydd y stormydd.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Penybont
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- sir Benfro
- sir Fynwy
- sir Gaerfyrddin
- Torfaen