Newyddion S4C

20mya: Beth yw'r rheolau newydd sydd wedi dod i rym?

17/09/2023
S4C

Mae'r terfyn cyflymder 20mya newydd wedi dod i rym ar ffyrdd 'cyfyngedig' drwy Gymru ers hanner nos ddydd Sul - gan olygu newid i nifer fawr o ffyrdd 'cyfyngedig' ar hyd a lled y wlad.

Dywed Llywodraeth Cymru y gallai gostwng terfynau cyflymder arwain at 40% yn llai o wrthdrawiadau ac arbed hyd at 10 o fywydau ac atal hyd at 2,000 o anafiadau'r flwyddyn.

Dyma ganllaw i'r newid sydd wedi dod i rym:

Beth yw ffordd gyfyngedig?

Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac ar hyn o bryd mae ganddyn nhw derfyn cyflymder o 30mya a system oleuadau stryd.

A fydd y terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei orfodi?

Bydd yr Heddlu a GanBwyll yn gorfodi 20mya, fel unrhyw derfyn cyflymder arall. Byddant hefyd yn cysylltu â modurwyr i sicrhau bod y terfynau cyflymder newydd yn cael eu parchu.

Mae'r llywodraeth wedi dweud mai annog pobl i ddilyn y drefn newydd yn hytrach na'u gorfodi fydd y neges ar y dechrau.

Os oes goleuadau stryd ar ffordd ond mae’r terfyn cyflymder yn 40mya neu 50mya, fydd o’n newid i 20mya?

Na fydd. Dim ond ffyrdd cyfyngedig 30mya fydd yn newid i 20mya ym mis Medi.

Mae goleuadau stryd ar hyd y ffordd drwy fy nhref/pentref - fydd hyn yn golygu y bydd yn dod yn barth 20mya?

Mae mwyafrif y terfynau cyflymder 30mya ar ‘ffyrdd cyfyngedig’, ac mae deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn nodi os oes gan ffordd system o oleuadau stryd, yna bydd yn destun cyfyngiad 30mya. Mae deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru wedi newid y terfyn cyflymder i 20mya o 30mya.

Fydd 20mya yn atal y gwasanaethau brys rhag cyrraedd galwadau brys ar amser?

Yn ôl y gyfraith, caniateir i'r heddlu, gwasanaethau tân ac ambiwlans fynd dros derfynau cyflymder i ymateb i alwadau brys. Nid yw cyflwyno'r terfyn cyflymder o 20mya yn newid hynny yn ôl Llywodraeth Cymru, ac felly ni ddylid gweld oedi cyn ymateb.

Mae'r heddlu'n credu na fydd amseroedd ymateb yn cael eu heffeithio ac y gallai'r ffyrdd arafach ei gwneud yn haws i'r gwasanaethau brys gyrraedd medd y llywodraeth.

A fydd yr holl arwyddion ffyrdd yn eu lle ar gyfer 17 Medi?

Ni fydd angen arwyddion 20mya ar ffyrdd lle mae'r terfyn bellach yn 20mya. Bydd arwyddion terfyn cyflymder ar waith lle mae'r terfyn cyflymder yn newid.

Ni fydd pob arwydd yn cael ei newid ar 17 Medi, ond mae awdurdodau lleol yn gweithio i gael yr holl arwyddion yn eu lle cyn gynted ag y gallant.

Gall parthau 20mya y tu allan i ysgolion barhau am hyd at 12 mis, yn ogystal ag unrhyw arwyddion ailadrodd 20mya. Gall unrhyw arwydd 20mya sy'n cael eu paentio ar arwynebau ffyrdd barhau am hyd at bum mlynedd. Gall Awdurdodau Priffyrdd ddewis eu dileu cyn y dyddiadau cau hyn os ydynt yn dewis gwneud hynny.

Pwy sy’n talu am gyflwyno 20mya ar ffyrdd cyfyngedig?

Bydd yr holl gostau sydd ynghlwm â gweithredu 20mya ledled Cymru yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru drwy grant i gynghorau lleol.

Ble arall mae terfynau cyflymder 20mya wedi'u cyflwyno?

Mae cynlluniau i gyflwyno 20mya ar draws Cernyw ac yn yr Alban ac mae mwy o awdurdodau gwledig yn cyflwyno rhaglenni 20mya estynedig ar raddfa fwy, ac maent wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cyflwyno 20mya fel y norm mewn ardaloedd adeiledig. Mae'r terfyn cyflymder hefyd yn bodoli mewn rhannau o ddinasoedd mawr yn Lloegr

Cyflwynodd Sbaen derfyn o 30KMph (tua 19mya) ar gyfer ffyrdd unffrwd mewn ardaloedd trefol yn 2021.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.