Person 'mewn cyflwr difrifol' ar ol ymosodiad yng nghanol Caerdydd
Mae'r heddlu wedi cau rhan o ganol Caerdydd wedi digwyddiad sydd sydd wedi gadael un person yn ddifrifol wael yn yr ysbyty.
Dywedodd y llu bod person 43 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig.
Bore Iau roedd swyddogion fforensig yn archwilio Sgwâr Callaghan, sydd ger gorsaf trên Caerdydd Canolog.
Mae rhan o Stryd Hansen yn Nhre Biwt hefyd wedi cau.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i ymosodiad difrifol a ddigwyddodd tua 4.30 ar Stryd Hansen.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty ac mae'n parhau mewn cyflwr difrifol.
"Mae dyn 43 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o niwed corfforol difrifol yn fwriadol."